KYFFIN
,
MORRIS
(
c.
1555
-
1598
),
llenor a milwr
;
mab
Tomos
Kyffin
a'i wraig,
Catrin
iengaf, ill dau'n hanfod o deuluoedd o uchelwyr o gyffiniau
Croesoswallt
, oedd
Morris
Kyffin
mwy na thebyg. Ni wyddys ymhle y cafodd ei addysgu, ag eithrio iddo fod yn ddisgybl barddol i
Wiliam Llŷn
, a'i fod wedyn yn
Llundain
,
1578-80
, yn un o ddisgyblion a charedigion yr enwog
John
Dee
[q.v.]
. Bu yn
athro
ar feibion yr
arglwydd Buckhurst
, tua
1580-2
. Bu'n
barddoni
cryn dipyn yn
Gymraeg
ac yn
Saesneg
, ac yn
1587
cyhoeddodd
The Blessednes of Brytaine
, cân o fawl i'r
frenhines
Elisabeth
. Y mae llawer o'i ganeuon
Cymraeg
ar gael yn y llawysgrifau o hyd. Yn
1588
cyhoeddwyd ei gyfieithiad
Saesneg
o
Andria
, un o gomedïau
Terens
. Yn
1588
, hefyd, penodwyd ef yn ‘
Surveyor of the Muster Rolls
’ ym
myddin Lloegr
yn yr
Iseldiroedd
, ac yn
1591
yn
is-drysorydd y lluoedd
yn
Normandi
. Dychwelodd i
Lundain
i orffen, ac i gyhoeddi, yn
1594
, ei gampwaith llenyddol,
Deffynniad Ffydd Eglwys Loegr
, cyfieithiad o
Apologia
yr
esgob
Jewel
dros ffydd
Eglwys Loegr
, a gyhoeddwyd gyntaf yn
1562
. Y mae'r
Deffynniad
yn un o glasuron rhyddiaith
Gymraeg
, ac yn hynod am rymuster a rhwyddineb ei iaith. Tymhestlog i
Kyffin
oedd y cyfnod o
1596
hyd ei farwolaeth, ac yntau'n
swyddog milwrol
, ‘
Comptroller of the Musters
’ yn
Iwerddon
. Ei waith yno oedd
gwylio swyddogion diegwyddor a fynnai dwyllo'r Llywodraeth
a gormesu'r trigolion. Hyd y gellir barnu, bu
Kyffin
yn onest a chydwybodol, a thrwy hynny enynnodd lid eraill llai dilwgr nag ef, ac yn enwedig ei gyd-swyddog
Syr
Ralph
Lane
. Bu f.
2 Ionawr 1598
, a chladdwyd ef yn
Eglwys Crist
,
Dulyn
.
Ffynonellau:
-
W. P. Williams
(gol.),
Deffynniad Ffydd Eglwys Loegr
(Bangor,
1908)
;
-
W. J. Gruffydd
,
Llenyddiaeth Cymru o 1450 hyd 1600
, 86-97;
-
T. Parry
,
Hanes Llenyddiaeth Gymraeg
(1944)
, pen. viii.
Awdur:
Syr Glanmor Williams, M.A., Abertawe