Kyffin oedd awdur Rhann o Psalmae Dafydd Brophwyd Ivv Canu ar ôl y dôn arferedig yn Eglwys Loegr (‘ Simon Stafford a'i printiodd yn Llunden dros T[homas] S[alisbury] 1603 ’). Y mae'n amheus a gyhoeddwyd y llyfryn hwn o gwbl; dim ond copi Ll.G.C. sydd ar gael, hyd y gwyddys. Ni chynnwys ond y 12 salm cyntaf a'r pum adnod cyntaf o'r drydedd ar ddeg wedi eu gosod ar fesur awdl gywydd, ochr yn ochr â'r testun Beiblaidd ac yn dilyn llythyr cyflwyniad Kyffin yn rhoddi'r rhesymau a'i symbylodd i ymgymryd â'r gwaith. Yn wyneb yr hyn a ddywaid Maurice Kyffin , yn ei ragymadrodd i Deffynniad Ffydd Eglwys Loegr , 1595 , am yr angen am fydryddu'r salmau Cymraeg nid yw'n annhebyg mai ar ei anogaeth ef yr ymgymerodd ei frawd Edward â'r gorchwyl. Dywaid Thomas Salisbury , mewn llythyr at Syr John Wynn o Wydir , fod Kyffin , ar ôl mydryddu tua 50 o'r salmau, wedi syrthio'n ysglyfaeth i'r pla yn 1603 . Hynny, yn ddiau, sy'n cyfrif paham nad argraffwyd mwy ohonynt.
Mewn un yn unig o'r tair ffurf sydd ar dudalennau rhagarweiniol Psalmae y Brenhinol Brophvvyd Dafydd , gan Wiliam Middleton , 1603 , ceir, ar dd. 3-4, ‘ Mawl-gerdh farwnad i Gapten William Middleton ’ gan Kyffin . Nid oes sicrwydd ai efe ynteu gŵr arall o'r un enw, a raddiodd yn Rhydychen ac a fu'n ficer Whitford a Chaerwys yn nechrau'r 17eg g. , yw'r Edward Kyffin a enwir fel awdur ‘ The pronunciation of the Letters in the British tongue ’ ynghyd ag ‘ A comparison of the pronunciation of the letters in Welsh, to the Greeke and Hebrew Letters ’ a geir ar ddechrau Car-wr y Cymru, Yn annog ei genedl anwyl , 1631 .
Gildas Tibbott M.A., (1900-79), Aberystwyth