Bu H. H. Knight yng ngholegau Merton ac Exeter yn Rhydychen , graddiodd yn y dosbarth blaenaf yn y clasuron yn 1817 , a bu'n gymrawd o Goleg y Frenhines o 1820 hyd 1827 . Ar y dydd olaf yn 1826 , sefydlwyd ef yn rheithor Castell Nedd , a gwasnaethodd yn ddiwyd yno hyd Ragfyr 1854 , pryd yr olynodd ei hanner-brawd hŷn nag ef ym mywoliaeth (deuluol, i bob pwrpas) Trenewydd Notais . O hynny allan, Cwrt Notais oedd ei breswyl wastadol — eisoes er tua 1830 edrychai ar y tŷ hwnnw fel ei gartref — ac yno y bu farw'n ddibriod ar 30 Medi 1857 . Aeth y fywoliaeth wedyn i'r pedwerydd o'r brodyr, EDWARD KNIGHT ( 1806? - 1873 ), a breswyliai yntau yng Nghwrt Notais sydd eto yn nwylo disgynyddion ei ferch. Daeth chwaer (hynaf) y tri brawd, ANNE KNIGHT ( 1794 - 1825 ), yn wraig i'r Parch. John Blackmore , ac felly'n fam i'r nofelydd Richard Doddridge Blackmore . Bwriai hwnnw yn ei ieuenctid lawer o'i amser yng Nghwrt Notais gyda'i ewythr H. H. Knight ; darluniodd ef yn un o'i nofelau, a chafodd lawer o arian ar ei ôl. Yng Nghwrt Notais y dechreuodd Blackmore sgrifennu The Maid of Sker , ac â'r gymdogaeth honno y mae a fynno llawer o'r stori.
Fel hynafiaethydd yr haedda H. H. Knight ei gofio. Yr oedd yn un o aelodau cyntaf a mwyaf gweithgar Cymdeithas Hynafiaethau Cymru , ac yn awdur amryw draethodau hynafiaethol (rhestr yn Phillips , Hist. of the Vale of Neath , 115); y pwysicaf o'r rhain yw'r papur gwerthfawr, ‘ An Account of Newton Nottage ’ ( Arch. Camb. , 1853 , 90-8, 161-80, 229-62), sy'n adrodd hanes Llandidwg a thiroedd eraill y Twrbiliaid , y Lougheriaid , a'r Knights .
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor