KINSEY
,
WILLIAM MORGAN
(
1788
-
1851
),
clerigwr, teithiwr, ac awdur
;
g. yn y
Fenni
, mab
Robert Morgan
Kinsey
,
cyfreithiwr
a
bancer
yn y dref honno, a'i wraig
Caroline Hannah
, merch
Syr
James
Harington
,
barwnig
. Cafodd ei addysg yn
Rhydychen
(ymaelodi
28 Tachwedd 1805
, ysgolor yn
Trinity College
,
B.A.
1809
,
M.A.
1813
,
B.D.
1822
,
cymrawd
ei goleg
1815
,
deon
1822
,
is-lywydd
1823
, ‘
bursar
’,
1824
). Yn
1827
bu'n teithio yn
Portiwgal
, a'r flwyddyn ddilynol cyhoeddodd lyfr a gyfrifid yn werthfawr am gyfnod, sef
Portugal Illustrated: in a series of letters, embellished with a map, plates of coins, etc.
(
London
,
1828
; 2il arg. yn
1829
). Bu wedyn yn teithio yn
Belgium
(gyda'r
viscount Alford
), a digwyddodd fod yn llygad-dyst o'r cythrwfl yn
Brussels
yn
Awst 1830
ar adeg gwrthryfel. Tua'r flwyddyn
1832
(
1831?
) dewiswyd ef yn
weinidog
S. John's
,
Cheltenham
, lle yr enillodd enw iddo'i hun fel
pregethwr
. Cyhoeddodd rai o'i bregethau, e.e.
A sermon on the public advantages of social combinations founded on Christian principles
(
Cheltenham
,
1831
) a
The Jubilee of the Bible; or, three hundredth anniversary of Coverdale's translation of the whole Bible … a sermon preached at … Cheltenham
(
London
,
1835
). Ceir erthygl ganddo yn y
Gentleman's Magazine
,
Ionawr 1848
. Yn
1843
cafodd ei ddewis yn
rheithor
Rotherfield Greys
,
sir Oxford
, lle y bu f.
6 Ebrill 1851
.
Llyfryddiaeth:
-
Oxford Dictionary of National
Biography
Awdur:
Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952),
Aberystwyth