KILVERT
,
ROBERT FRANCIS
(
1840
-
1879
),
clerigwr a dyddiadurwr
;
g.
3 Rhagfyr 1840
yn
Hardenbuish
gerllaw
Chippenham
, lle yr oedd ei dad (
Robert
) yn
offeiriad
. Graddiodd yng
Ngholeg Wadham
,
Rhydychen
, yn
1862
(
M.A.
1866
). Wedi bod yn
gurad
i'w dad, aeth yn
gurad
Cleiro
(
sir Faesyfed
) yn
1864
, a bu yno hyd
1876
. Yn
1876
cafodd fywoliaeth
Llanarmon
(
S. Harmon's
) yn yr un sir, ond yn
1877
cafodd fywoliaeth
Bredwardine
yn
sir Henffordd
; yno y bu f.
23 Medi 1879
. Clod mwyaf
Kilvert
ydyw'r dyddiadur y cychwynnodd ei sgrifennu yn
Ionawr 1870
, gan ddal ymlaen arno hyd
Fawrth 1879
. Aeth darnau ohono (
Mehefin 1876-Rhagfyr 1877
) ar goll, ond cyhoeddwyd detholion helaeth o'r gweddill gan
William
Plomer
, yn dair cyfrol (
1938-40
). Y mae ei ddisgrifiadau o natur, ac o'r bywyd cymdeithasol, ar
lannau Gwy
, yn ddiddorol a gwerthfawr dros ben.
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D.,
F.S.A., (1881-1969), Bangor