Mab hynaf
Thomas
a
Catherine
Kenyon
oedd
LLOYD
KENYON
I
(
1696
-?); g.
17 Mawrth 1696
, cafodd ei addysg yng
Ngholeg Sant Ioan
,
Caergrawnt
, a phriododd, ym mis
Tachwedd 1730
,
Jane
, merch a chyd-aeres
Robert
Eddowes
,
Eagle Hall
,
sir Gaer
, ac
Anne
, merch ac aeres y
Parch.
Richard
Hilton
(bu f.
1706
),
Gredington
,
ficer Hanmer
,
1662-1706
. Prynodd
Hilton
Gredington
gan
Syr
John
Hanmer
ar
9 Mai 1678
, ac ymddengys i deulu
Kenyon
symud yno yn gynnar wedi i'r
ficer
f. yn
1706
. Ganed
LLOYD
KENYON
II
, ail fab
Lloyd
Kenyon
I
, yn
Gredington
ar
5 Hydref 1732
. Cafodd ei addysg yn
ysgol Rhuthyn
, ac fe'i rhwymwyd (
1749
) i
ddysgu'r gyfraith
gyda rhyw
Tomkinson
,
cyfreithiwr
yn
Nantwich
(
Caerlleon
). Ar
7 Tachwedd 1750
cafodd ei dderbyn gan y
Middle Temple
, eithr parhaodd ei gysylltiad â
Tomkinson
hyd nes yr aeth i
Lundain
yn
1755
. Ar ôl dyfod yn
fargyfreithiwr
(
7 Chwefror 1756
), bu'n dibynnu gan mwyaf ar flwydd-dâl o £80 a gâi gan ei dad ac ar hynny o waith a gâi gan
Tomkinson
a chymdogion caredig eraill, hyd y daeth i adnabod
Edward
Thurlow
, a wnaethpwyd yn
arglwydd ganghellor
ychydig yn ddiweddarach; yr oedd
Thurlow
yn falch o gael help ‘gwas’ a oedd mor drylwyr ac mor barod i ymboeni ag yr oedd
Kenyon
. Yn fuan wedi hynny daeth
Kenyon
i gael enw da fel
bargyfreithiwr
, ac ar gymhelliad
Thurlow
fe'i gwnaethpwyd yn ‘
King's Counsel
’ (
30 Mehefin 1780
). Cymerodd y llw fel
prif farnwr
Caer
,
Fflint
,
Dinbych
, a
Threfaldwyn
ar
4 Awst
; ar
13 Tachwedd
fe'i
galwyd i fainc
y
Middle Temple
. Ym mis
Medi
yr un flwyddyn etholwyd ef yn
aelod seneddol
dros
Hindon
,
Wiltshire
, a pharhaodd i gynrychioli'r etholaeth honno hyd
1784
pryd y daeth yn aelod dros
Tregony
a gynrychiolodd hyd nes y'i dyrchafwyd i fod yn
farwn
. Ym mis
Mawrth 1782
dewiswyd ef yn ‘
Attorney General
,’ swydd a lanwodd bron yn ddiball hyd nes y daeth yn ‘
Master of the Rolls
’ ar
30 Mawrth 1784
. Gwnaethpwyd ef yn
aelod o'r Cyfrin Gyngor
ar
12 Ebrill
ac yn
farwnig
ar
28 Gorffennaf 1784
. Dilynodd yr
arglwydd Mansfield
fel
prif farnwr Llys Mainc y Brenin
ar
4 Mehefin 1788
, a gwnaethpwyd ef yn
farwn
ar y
nawfed dydd o'r un mis
; ei deitl oedd ‘
Lord Kenyon, Baron of Gredington, co. Flint
.’
Yn ystod ei yrfa hir fel
bargyfreithiwr
bu â fynnai'r
arglwydd Kenyon 1af
â llawer o dreialon neu achosion diddorol-bu'n arwain y bargyfreithwyr a fu'n amddiffyn
Lord
George
Gordon
yn
1780
, fel
barnwr
efe oedd
llywydd y llys
pan wŷsiwyd
Stockdale
am athrod yn
1789
, a bu am gyfnod yn
llywydd y llys
a fu'n barnu
Warren
Hastings
.
Yr oedd yn
arglwydd-raglaw
sir y Fflint
,
1796-8
, ac yn ‘
Custos Rotulorum
’ y sir o
1796
hyd ei f. Priododd,
16 Hydref 1773
, yn
Deane
,
sir Lancaster
, ei gyfnither
Mary
, trydedd merch
George
Kenyon
,
Peel
, a'i wraig
Peregrina
, merch ieuengaf a chyd-aeres
Robert
Eddowes
(gw. uchod); bu iddynt dri mab —
LLOYD
(
1775
-
1800
),
GEORGE
(
1776
-
1855
), a
THOMAS
(
1780
-
1851
). Bu f. ar
4 Ebrill 1802
yn
Bath
, a dilynwyd ef gan ei ail fab
GEORGE
(
1776
-
1855
),
ail arglwydd Kenyon
.