KEMBLE
,
CHARLES
(
1775
-
1854
),
chwaraewr drama
;
g.
25 Tachwedd 1775
yn
Aberhonddu
, unfed plentyn ar ddeg
Roger
Kemble
a
Sarah
Ward
. Y mae'r gwahanol leoedd y ganwyd plant enwog y rhieni hyn ynddynt yn fynegai i'r gylchdaith y chwaraeai'r cwmni o actwyr crwydrol ynddi:
Sarah
(
Siddons
)
[q.v.]
, g. yn
Aberhonddu
,
1755
;
JOHN
, g. yn
Prescott
,
1757
;
STEPHEN
, g. yn
Kington
,
1758
;
FRANCES
(
TWISS
), g. yn
Henffordd
,
1759
;
ELISABETH
(WHITLOCK
, g. yn
Warrington
,
1761
;
Julia Ann
(
Hatton
)
[q.v.]
, g. yn
Worcester
,
1764
. Cyfrifir
Sarah
(
Siddons
)
a
John Philip
Kemble
ymhlith yr
actwyr
gorau a fu erioed. Yr oedd
Stephen
Kemble
yn
actor
galluog; bu'n
llywodraethwr
yr
Edinburgh Theatre Royal
. Yr oedd
Frances
ac
Elisabeth
yn
actwyr
cymwys. O'r plant a anwyd yn ddiweddarach bu pump farw pan oeddynt yn ifanc, eithr tyfodd
Charles
Kemble
i ddyfod yn ŵr adnabyddus ym myd y theatr. Fel ei frawd
John Philip
cafodd
Charles
ei addysgu yn yr
English College
yn
Douai
. Dechreuodd
actio
yn
Sheffield
yn
1792
, gan ymddangos mewn theatr yn
Llundain
am y tro cyntaf ar
21 Ebrill 1794
—
Malcolm
yn
Macbeth
. Bu'n gwasnaethu
Colman
hyd
1802
, ac o hynny ymlaen yng ngwasanaeth
John Philip
Kemble
yn
Covent Garden
. Priododd,
2 Gorffennaf 1806
,
Marie-Therese de
Camp
,
actres
adnabyddus. Daeth eu tri phlentyn yn enwog mewn gwahanol gyfeiriadau:
JOHN
KEMBLE
(
1807
-
1857
),
ieithydd
,
geiryddwr
, ac
awdur llyfrau hanes
;
ADELAIDE
(
SARTORIS
)
(
1814?
-
1879
),
cantores
ac
awdures
; a
FRANCES
(
BUTLER
)
,
actres
ac
awdur
. Dywed
A.
Nicoll
i
Kemble
fod yn gyfrifol am
ysgrifennu neu gyfaddasu chwe drama
.
Llyfryddiaeth:
-
Oxford Dictionary of National
Biography
;
-
D. E. Baker
,
Biographia Dramatica
, 1812
, i, 421, 423, 428-30 (London,
1812
;
-
A. Nicoll
,
A History of Early Nineteenth Century Drama,
1800-1850
, Caergrawnt, 1930
, ii, 325.
Awdur:
Cecil John Layton Price, Ph.D. (1915-91), Aberystwyth / Abertawe