JONES, WILLIAM (1851 - 1931), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd

Enw: William Jones
Dyddiad geni: 1851
Dyddiad marw: 1931
Rhiant: Elizabeth Jones
Rhiant: William Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Tom Beynon

Ganwyd 27 Gorffennaf 1851, ail fab William ac Elizabeth Jones, Pantydeuddwr, Pentwyn, Sir Gaerfyrddin. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol y Bwrdd, Llannon, ysgol Parcyfelfet, Caerfyrddin, a Choleg Trefeca. Dechreuodd bregethu yn 1874, cafodd ei ordeinio yn 1879, a bu'n bugeilio Moriah (Treboeth), 1879-80, Bethania (Treforris), 1880-1904, gan ymneilltuo i Cross Hands am flwyddyn, Seion (Forest), Aberdulais, 1905-27, ac ymddeol a symud i fyw i Nesta, Bonymaen, Llansamlet. Bu farw'n sydyn yn Llanelli, bore Sul, 26 Gorffennaf 1931, a chladdwyd ef ym Mhentwyn. Bu'n llywydd cymdeithasfa'r Deau, 1915, a llywydd y gymanfa gyffredinol, 1923.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.