JONES, WILLIAM (1826 - 1899), ysgrifennydd y 'Peace Society,'

Enw: William Jones
Dyddiad geni: 1826
Dyddiad marw: 1899
Rhiant: John Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgrifennydd y 'Peace Society,'
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Annie Grace Bowen-Jones

ac olynydd Henry Richard; mab John Jones y Crynwr, Rhuthyn, a gorŵyr Jonathan Hughes y bardd. Bu yn ysgol y Crynwyr yn Ackworth. Yn ddiweddarach penodwyd ef yn bennaeth comisiwn i ymgeleddu trigolion yr Almaen a dwyrain Ffrainc adeg y rhyfel a dorrodd allan yn 1870. Tua'r adeg yma daeth i gyffyrddiad â John Bright, a daeth y ddau yn gyfeillion mynwesol. Cafodd William Jones ymgom, ymysg eraill, gyda'r arlywydd Cleveland, U.D.A., a Li Hung Chang, ar gwestiynau heddwch cyd-genedlaethol. Bu farw 10 Mai 1899 yn Sunderland, lle y claddwyd ef.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.