JONES, WILLIAM ('Ehedydd Iâl '; 1815 - 1899), ffermwr a bardd

Enw: William Jones
Ffugenw: Ehedydd Iâl
Dyddiad geni: 1815
Dyddiad marw: 1899
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ffermwr a bardd
Maes gweithgaredd: Natur ac Amaethyddiaeth; Barddoniaeth
Awdur: David Gwenallt Jones

Ganwyd 15 Awst 1815 yn Cefn Deulin, Derwen, sir Ddinbych. Ni chafodd ysgol o gwbl. Aeth tua 9 oed yn 'hogyn' i'r Llwyn Isaf, ac oddi yno at John Davies, Plas-yn-nerwen, lle y ' byddai yr hen ŵr a minnau yn prydyddu ei hochr hi.' Oddi yno aeth i'r Hendre, Gwyddelwern, lle y cafodd gopi o ramadeg ' Bardd Nantglyn,' ac ar ôl bod saith neu wyth mlynedd yma aeth i Lanelidan, yn hwsmon at Mrs. Davies, Rhydmarchogion. Yma y cyfansoddodd y pennill enwog sy'n dechrau ' Er nad yw'm cnawd ond gwellt '; disgrifia yn ' Adgofion fy Mywyd ' sut y cyfansoddodd ef. O Rydmarchogion aeth i'r Green Parc, Llandegla. Bu'n cadw Melin y Mwynglawdd am dair blynedd. Yna aeth i Dafarn-y-Gath, tafarn a ffermdy ryw filltir o bentref Llandegla; yma y bu yn ffermwr ac yn dafarnwr anfodlon, ond ymhen wyth mlynedd ar ôl hyn trowyd y dafarn yn ffermdy. Yma y bu tan ei farwolaeth, 15 Chwefror 1899. Cyhoeddwyd ei waith yn 1898 : Blodau Iâl, sef Cynyrchion Barddonol William Jones (Ehedydd Iâl), Wedi Eu Casglu a'u Trefnu gan y Parch. John Felix.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.