Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



JONES , WILLIAM (bu f. 1679 ), gweinidog Piwritanaidd yn Ninbych ; brodor o Feirionnydd , yn ôl pob tebyg. Cafodd ei osod yn 1647 gan Bwyllgor y Gweinidogion Llwm ym mhrif dref Dyffryn Clwyd a dyfarnu iddo ganpunt y flwyddyn o gyflog allan o adnoddau'r rheithoraeth; ef hefyd oedd caplan milwyr y Senedd yn y dref; yn 1650 enwyd ef yn un o'r profwyr o dan Ddeddf y Taeniad . Yn y blynyddoedd 1654-6 yr oedd ei fuddion o'r plwyf mewn cryn berygl oherwydd osgo wrthwynebus yr eglwyswr mawr a ffarmiai'r degymau, ond yn 1657 gwelodd yr awdurdodau Piwritanaidd yn dda ychwanegu £40 y flwyddyn at ei gyflog. Nid oedd fawr obaith iddo yn nyddiau 'r Adferiad gael yr arian gwreiddiol na'r ychwanegiad, ond ni chafodd ei droi allan o'i le hyd Awst 1661 , a hynny o dan Ddeddf mis Medi 1660 , ac nid o dan Ddeddf Unffurfiaeth 1662 . Gorfu arno, yn ôl gofynion Deddf y Pum Milltir , ymadael â thref Dinbych , a chafodd noddfa yn y Plas Teg yn sir Fflint , cartref teulu Trevor (yr oedd y tad wedi bod yn gomisiynydd o dan Ddeddf y Taeniad , a'r mab yn brysur iawn yn cryfhau dwylo Siarl II gydag ‘ Indulgence1672 ). Dywedir i'r teulu roddi tir i William Jones i fyw arno gwerth £20 y flwyddyn; ac o gwmpas Plas Teg yr ydoedd pan ddaeth trwydded iddo i bregethu yn 1672, dyddiedig 28 Hydref . Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach daeth yn un o gynorthwywyr Thomas Gouge [q.v.] ; ei waith ef oedd cyfieithu i'r Gymraeg lyfrau crefyddol ; fel y digwyddodd, Gouge ei hun oedd awdur gwreiddiol y ddau a droswyd gan William Jones , y ddau yn ymddangos yn 1676Gair i Bechaduriaid a Gair i'r Sainct (un llyfr) a Principlau neu Bennau y Grefydd Ghristianogol . Ymddengys iddo symud o Blas Teg i Estyn ( Hope ), lle y bu f. yn Chwefror 1679 . ‘ A conforming minister of Abergeley ’ a bregethodd yn ei angladd, a hwnnw hefyd oedd awdur yr ysgrif Ladin a gerfiwyd ar ei garreg fedd (enw'r offeiriad oedd Dr. David Maurice , gŵr genedigol o Abergele , ond a weithredai fel ficer Llanasa ym mlynyddoedd olaf William Jones ). Yr oedd y ‘conforming minister’ a William Jones wedi priodi dwy chwaer.

Llyfryddiaeth:

  • Calendar of State Papers, Domestic Series , Record Publication , 1654 , 329; 1655-6, 221, 223;
  • Lambeth Manuscripts , 992 (45), 993 (316);
  • Dyddlyfrau Philip Henry , 93;
  • Calendar of State Papers, Domestic Series , Record Publication , Chas. II ,E. B. 38A, 261;
  • Calamy , An account of the ministers…ejected , 1660–2 , 713;
  • The Nonconformist Memorial; being an Account of the Lives…and Printed Books of the two thousand Ministers ejected… , 1802–3 , 1802-3 , iii, 477-8;
  • Thomas , A History of the Diocese of St. Asaph , i, 334;
  • History of the Princes, the Lords Marcher, and the Ancient Nobility of Powys Fadog , iv, 373.

Awdur:

Thomas Richards, D.Litt., (1878-1962), Bangor