JONES, WALTER (bu farw 1819), Cefn Rug, Corwen, Sir Feirionnydd, comisiynwr o dan ddeddfau i gau tiroedd

Enw: Walter Jones
Dyddiad marw: 1819
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: comisiynwr o dan ddeddfau i gau tiroedd
Cartref: Cefn Rug
Maes gweithgaredd: Natur ac Amaethyddiaeth; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: Arthur Herbert Dodd

Yr oedd yn oruchwyliwr stadau Syr Robert Williames Vaughan, a daeth hyn ag ef i sylw ym mywyd cyhoeddus ei sir, e.e. fel comisiynwr milisia ac ymddiriedolwr o dan ddeddf harbwr Abermaw (37 Geo. III. cap. 50). O 1806 ymlaen yr oedd yn gweithredu, yn barhaus bron, fel comisiynwr o dan nawdd gweithred seneddol yn olynol yn delio â chau tiroedd yn sir Fôn, Sir Gaernarfon, Sir Feirionnydd, a sir Ddinbych; enwyd ef mewn dwy weithred seneddol arall eithr gwrthododd weithredu. Bu farw 7 Ebrill 1819.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.