JONES
,
JOSIAH (TOWYN)
(
1858
-
1925
),
gweinidog gyda'r Annibynwyr ac aelod seneddol
;
g.
28 Rhagfyr 1858
yn
Ceinewydd
,
sir Aberteifi
, mab
John
Jones
,
crydd
, ac
Elizabeth
ei wraig. Gadawodd yr ysgol pan oedd yn 11 oed. Wedi cyfnod fel
bugail
ifanc daeth yn
was-caban ar y llongau bychain
, ‘
Elizabeth
’ a ‘
James a Mary
,’ a oedd yn tradio rhwng porthladdoedd deheuol
Cymru
ac
Iwerddon
. Yn
1874
collodd ei le ar y llong am dorri llestri bwyta. Aeth wedyn i
ysgol ramadeg Tywyn
,
Ceinewydd
, ac, yn
1876
, i
Goleg Presbyteraidd Caerfyrddin
. Ordeiniwyd ef yn
weinidog
Gwernllwyn
,
Dowlais
, yn
1880
, bu'n fugail
Bethel Newydd
,
Cwmaman
,
1885-1906
, ac wedyn yn
genhadwr cartref
dros
Undeb yr Annibynwyr Cymreig
, swydd a ddaliodd
hyd 1912
. Rhwng y blynyddoedd
1885 a 1912
yr oedd wedi datblygu'n un o bregethwyr mawr ei enwad. Daeth hefyd yn ffigur blaenllaw ymysg
Rhyddfrydwyr
ac yn glos ei gysylltiad
â
Tom
Ellis
a
David
Lloyd George
. Yn
1912
etholwyd ef i gynrychioli etholaeth
dwyrain sir Gaerfyrddin
yn y
Senedd
; yn
1917
daeth yn
Chwip Cymreig
ac yn un o
Arglwyddi'r Trysorlys
. O
1918
ymlaen bu'n cynrychioli etholaeth
Llanelli
yn llywodraeth unedig y flwyddyn honno, eithr ymddiswyddodd yn
1922
oherwydd stad ei iechyd. Yn
1920
dewiswyd ef yn
llywydd
Undeb yr Annibynwyr Cymreig
Bu f.
16 Tachwedd 1925
yn
Rhydaman
.
Awdur:
David Thomas Jones, M.A., Ll.B., (1889-1953), Hwlffordd