JONES, THOMAS ('Gogrynwr'; 1822 - 1854), meddyg a cherddor

Enw: Thomas Jones
Dyddiad geni: 1822
Dyddiad marw: 1854
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: meddyg a cherddor
Maes gweithgaredd: Meddygaeth; Cerddoriaeth
Awdur: Robert David Griffith

; ganwyd ym Mronant, Dolgellau, 1822. Cyffuriwr oedd ei dad, a rhoddodd iddo yr addysg orau, a phrentisiodd ef yn llawfeddyg. Wedi gorffen ei gwrs addysg a mynd yn llwyddiannus trwy ei waith yn yr ysbyty, bu am beth amser yn Lerpwl, ac wedi hynny yn Wrecsam a Chorwen. Yn 32 oed symudodd i Benstryt, Llandegla, lle y bu farw yn 1854. Gadawodd ar ei ôl gyfrol o gerddoriaeth mewn ysgrifen yn cynnwys tonau a'r gantawd ' Gweddi Habacuc ' a anfonasai i eisteddfod Porthmadog, 1851. Ymddangosodd llythyrau beirniadol o'i waith yn Yr Amserau, 1851, ar feirniadaeth ' Tanymarian ' yn eisteddfod Bethesda, a bu cryn gynnwrf yn y byd cerddorol o'u herwydd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.