Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



JONES , THOMAS ( 1819 - 1882 ), gweinidog gyda'r Annibynwyr ; g. yn Rhaeadr Gwy , 17 Gorffennaf 1819 , yn fab i John Jones (a fu f. 1829 ), teithiwr masnachol . Prentisiwyd ef i wlanennwr yn Llanwrtyd , ond yn 1831 aeth i'r gwaith glo yn y Brynmawr ac oddi yno ( 1839 ) i Lanelli ( Caerfyrddin ). Dechreuodd bregethu gyda'r Methodistiaid Calfinaidd , ond troes at yr Annibynwyr yn 1841 . Bu mewn ysgolion yn Llanelli ac yn Rhyd-y-bont ; yn 1844 urddwyd ef yn weinidog ar Gapel y Bryn , Llanelli . Symudodd yn 1845 i ofalaeth Tabor ( Llanwrda ) a Hermon , ac oddi yno yn 1850 i Libanus , Treforris , lle y gwnaeth enw mawr iddo'i hunan fel pregethwr a darlithydd — cyffelybid ef yn fynych i Williams o'r Wern .’ Ym mis Medi 1858 aeth i eglwys Albany , Frederick Street , Llundain , ac wedyn ( 1861 ) i Bedford Chapel , Oakley Square , lle y gwrandawai'r bardd Browning arno'n gyson. Yn herwydd afiechyd, ymadawodd â Llundain ar ddiwedd 1869 , i fod yn weinidog Walter Road , Abertawe ; bu yno o 1870 hyd 1877 , a thrachefn (gyda chynorthwywr) o 1881 hyd ei farw — bwriodd y blynyddoedd 1877-80 yn ceisio adennill ei iechyd yn Awstralia , a gofal eglwys Collins Street , Melbourne , arno. Bu'n llywydd Undeb Annibynwyr Lloegr a Chymru yn 1871-2 . Bu f. 24 Mehefin 1882 . Cyhoeddodd o bryd i bryd ddarnau o farddoniaeth yn Gymraeg ; wedi ei f. cyhoeddwyd cyfrol o'i bregethau ( The Divine Order ), 1884 , gyda rhagair gan Robert Browning , a byr-gofiant.

Llyfryddiaeth:

  • D. Lleufer Thomas yn y Oxford Dictionary of National Biography ;
  • Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru , v, 111-20 (gan John Thomas ; ysgrif lawn, gydag atgofion diddorol).


Y mae mewn man arall ysgrifau ar ddau fab i Thomas Jones , sef Syr David Brynmor Jones a'r prifathro John Viriamu Jones . Mab arall oedd LEIFCHILD (LEIF ( 1862 - 1939 ), gwleidyddwr Rhyddfrydol , a phleidiwr dirwest ; g. yn Llundain 16 Ionawr 1862 ; graddiodd yn y dosbarth blaenaf ( 1885 ) mewn mathemateg yng Ngholeg y Drindod , Rhydychen . Ar ôl sawl cais aflwyddiannus mewn mannau eraill, bu'n aelod seneddol dros ogledd Westmorland , 1905-10 ; Rushcliffe (Notts) , 1910-8 ; Camborne ( Cernyw ), 1923-4 a 1929-31 . Dyrchafwyd ef i'r bendefigaeth yn 1932 , dan y teitl arglwydd Rhayader . Bu f. 26 Medi 1939 ( Who was Who ).

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor