Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



JONES , THOMAS (‘ Glan Alun ’; 1811 - 1866 ), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a llenor ; g. 11 Mawrth 1811 yn ‘ siop Cefn-y-gader ’ yn yr Wyddgrug , yn fab i John Jones (o Gefn-y-gadair yn Llanelidan , a chyn hynny o'r Hendre , plwy Derwen ), mab i JOSEPH JONES o'r Seined ger Rhuthun — ‘ Joseph y Seined ’. Antinomiad , a ffurfiodd sect yn ystod y rhwyg (1750) rhwng Harris a Rowland ; gw. arno J. H. Morris , Hanes Methodistiaeth Liverpool , I, 226, a The Moravian Brethren in N. Wales ( Cymm. 1938 , 64-9).

Cafodd addysg dda, ac amlygodd duedd at lenyddiaeth yn fachgen bychan iawn. Bu'n brentis fferyllydd yng Nghaerlleon Fawr , ac yno bu'n ysgrifennu ar yr orgraff yn Goleuad Cymru ; yna, wedi bwrw tymor yn Llundain , agorodd siop yn Wrecsam ; yno, 1835-6 , cyhoeddodd gylchgrawn byrhoedlog, Y Wenynen , o'i waith ei hunan gan mwyaf. Daeth yn bregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd . Bu f. ei dad yn 1841 ; symudodd yntau i'r Wyddgrug ; priododd yn 1843 ; ordeiniwyd ef yn 1850 . Cwbl ddidrefn oedd gyda'i fasnach; drysodd ei amgylchiadau ac aeth yntau i yfed yn ormodol , felly diarddelwyd ef. Bu f. ei wraig yn 1856 , gan adael chwech o blant bychain; ac aeth pethau o ddrwg i waeth; ond ar ôl troi ei law at amryw bethau (megis gwneuthur canhwyllau ), cafodd le fel teithiwr masnachol , ac ailgychwynnodd bregethu ac areithio ; yr oedd hefyd yn eisteddfodwr selog. Ailbriododd yn 1865 . Bu f. 29 Mawrth 1866 . Heblaw nifer helaeth o ysgrifau yn Y Traethodydd a chyfnodolion eraill, cyhoeddodd Fy Chwaer , 1844 , Ehediadau Byrion , 1862 , a dwy gyfrol o gyfieithiadau o chwedlau Esop . Yn y mesurau rhyddion y canai. Fel pregethwr , areithiwr ar wleidyddiaeth , a bardd , dyn rhugl iawn oedd; disgrifia Daniel Owen ef fel ‘ dyn hyll a phrysur ,’ yn ‘braidd gyffwrdd’ â phopeth, ond yn llednais a diniwed. Nid pawb a gafodd ysgrifau coffa gan dri gwr fel ‘ Ceiriog ’ ( Y Traethodydd , 1868 ), ’ Gwalchmai ’ ( Y Dysgedydd , 1879 ), a Daniel Owen ( Y Geninen , 1886 ).

Priododd ei ferch hynaf y Cenhadwr John Roberts ( 1842 - 1908 , , priododd merch arall iddo a J. Puleston Jones ; a bu mab iddo JOHN THOMAS ALUN JONES ( 23 Awst 1851 - 1 Mai 1929 ), yntau'n weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd , yn llyfrgellydd a chofrestrydd Coleg y Bala am flynyddoedd lawer. Yr oedd yn llenor coeth, ond hynod wylaidd; ymddiddorai yn yr hen Biwritaniaid a'r cyfrinwyr, a sgrifennodd yn dda arnynt yng nghylchgrawn y coleg. Cyhoeddodd yn 1908 gyfrol fechan, Duwinyddiaeth Emynau .

Llyfryddiaeth:

  • Y Gwyddoniadur Cymreig , 1889–96 ;
  • Gwybodaeth gan y teulu;
  • adnabyddiaeth bersonol.

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor