Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



JONES , THOMAS ( 1810 - 1849 ), cenhadwr cyntaf y Methodistiaid Calfinaidd ar fryniau Khasia ; g. 24 Ionawr 1810 , yn fab i Edward a Mary Jones , Tan-y-ffridd , Llangynyw . O fod yn saer troliau , aeth yn felinydd i felin Llifior , Aberriw . Dechreuodd bregethu tua 1835 , ac yr oedd yn un o ddisgyblion cyntaf Coleg y Bala ( 1837 ). Rhoes ei fryd ar fod yn genhadwr , a chynigiodd ei wasanaeth i Gymdeithas Genhadol Llundain ; ni fynnai honno iddo (yn herwydd ei iechyd bregus) fynd i'r India , a gwrthodai yntau fynd i Dde Affrica . Canlyniad uniongyrchol yr anghydweld hwn fu sefydlu cenhadaeth dramor y Methodistiaid Calfinaidd ( 1840 ); ordeiniwyd Thomas Jones , ac wedi tymor byr o hyfforddiant meddygol yn Glasgow hwyliodd i'r India ym mis Tachwedd, a chyrraedd Calcutta fis Ebrill 1841 . Ganol 1841 ymsefydlodd yn Cherrapunjee . Dysgodd yr iaith Khasi ; efe, hyd y gwyddys, fu'r cyntaf i'w rhoi ar glawr, a chyfieithodd efengyl Matthew a nifer o holwyddoregau. Bu f. ei briod yn 1845 , ac ailbriododd yntau'n groes i farn llywodraethwyr y genhadaeth; ni chytunai'n rhy dda chwaith â'r cenhadon eraill a oedd wedi eu hanfon drosodd o Gymru . Rhwng popeth, rhoes heibio ei genhadaeth ( 1847 ) a chymryd at drin y tir . Dirywiodd ei iechyd yn gyflym, ac ni lwyddodd yn ei amgylchiadau chwaith. Bu f. yn Calcutta , 16 Medi 1849 , a chladdwyd yn y fynwent Sgotaidd yno.

Llyfryddiaeth:

  • J. Hughes Morris , Hanes Cenhadaeth Dramor y Methodistiaid Califinaidd Cymreig hyd ddiwedd y flwyddyn 1904 , Caernarfon, 1907

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor