JONES, THOMAS ('Y Bardd Cloff'; 1768 - 1828), bardd

Enw: Thomas Jones
Ffugenw: Y Bardd Cloff
Dyddiad geni: 1768
Dyddiad marw: 1828
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Ray Looker

Ganwyd, y mae'n debyg, yn Llandysilio, sir Ddinbych. Aeth i Lundain yn 12 mlwydd oed i weithio yng nghyfrifdy gŵr o'r enw Mathew Davies, yn Long Acre. Ymddiddorai lawer mewn llenyddiaeth, ac yn enwedig mewn barddoniaeth Gymraeg. Yn 1789 etholwyd ef yn aelod o Gymdeithas y Gwyneddigion, ac yn fuan wedi hynny yn gofiadur y gymdeithas. Cyhoeddwyd ei awdl i'r gymdeithas yn 1799, ei 'Awdl ar Ddydd Gwyl Dewi Sant' yn 1802, a chasgliad o'i farddoniaeth yn 1828. Cafodd holl ofal masnach swyddfa ei feistr yn 1803, ac yn 1813 daeth yn gyfrannog ag ef. Etholwyd ef yn drysorydd Cymdeithas y Cymmrodorion pan atgyfodwyd honno yn 1820, ac enillodd fathodyn aur am y bryddest orau ar yr un achlysur. Gwnaethpwyd ef yn llywydd Cymdeithas y Gwyneddigion yn 1821 am y drydedd waith, ac yng ngwledd ei jiwbili hi, anrhegwyd ef â bathodyn arian y gymdeithas. Yr oedd yn fardd eisteddfodol, ac enillodd amryw wobrwyon mewn gwahanol eisteddfodau a gynhelid yng Nghymru. Pan fu farw, 19 Chwefror 1828, cynigiodd y Cymmrodorion fathodyn arian am yr awdl orau a gyfansoddid iddo, ac fe'i henillwyd gan Robert Davies ('Bardd Nantglyn').

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.