JONES, THOMAS (1756 - 1807), mathemategwr

Enw: Thomas Jones
Dyddiad geni: 1756
Dyddiad marw: 1807
Rhiant: Catherine Jones (née Evans)
Rhiant: Owen Owen
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: mathemategwr
Maes gweithgaredd: Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awduron: Robert Thomas Jenkins, Llewelyn Gwyn Chambers

Ganwyd yn Aberriw 23 Mehefin 1756, yn fab gordderch. Erys ansicrwydd ynghylch ei rieni. Yn ôl y traddodiad a gofnodir gan Williams, Montgomeryshire worthies , yr oedd yn fab gordderch i Owen Owen, Llifior, Aberriw a cheir cofnod yng nghofrestr bedyddiadau Aberriw 29 Mehefin 1756 'Thomas son of Catherine Evans of Llivior'. (Yr oedd Owen wedi priodi aeres Llifior.) Yn 1760 bu achos yn erbyn ' Catherine, wife of Mathew Jones of Trefeen, Kerry' a oedd wedi bod mewn gwasanaeth yn Nhynycoed Llifior. Eithr ym mhapurau Glansevern (LlGC) 17840 nodir 'Jones of Trefeen illegitimate son of Davies of Ty'ncoed cousin to Miss Davies who married Owen 'Welch Uncle' to David Owen Senior Wrangler'.

O ysgol Amwythig aeth yn 1774 i Goleg S. Ioan, Caergrawnt, ond symudodd yn 1776 i Goleg y Drindod, lle y graddiodd yn 1779 ar flaen y rhestr mewn mathemateg ('Senior Wrangler'). Etholwyd ef yn gymrawd o'r coleg yn 1771, a bu'n ' diwtor ', h.y. yn un o'r ddau swyddog a arolygai waith y myfyrwyr, am ugain mlynedd, 1787-1807; un o'r diwethaf o'i ddisgyblion oedd y bardd Byron. Ystyrid ef yn athro dan gamp; yr oedd hefyd yn un o arweinwyr y blaid flaengar ymhlith y cymrodyr. Ni chollodd ei gyswllt â'i sir enedigol, ac argraffwyd (Collections, historical & archaeological relating to Montgomeryshire, xi, 261-4) anerchiad o'i eiddo i wirfoddolwyr y sir. Bu farw yn Llundain 18 Gorffennaf 1807.

Awduron

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.