Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



JONES , THOMAS ( 1720? - 1790 ), clerigwr ac awdur . Ychydig a wyddys am ei fywyd. Penodwyd ef yn ficer Pennant , sir Drefaldwyn , yn 1757 . Bu'n rheithor Llangynog , 1762-82 , ac yn rheithor Hirnant , 1782-90 . Yn 1763 cyhoeddwyd ei Rheol o Addoliad ac Ymarfer Duwioldeb i'r Hwsmon — sef cyfieithiad o ddarlithiau yr archesgob Thomas Secker , Rule of Worship and Practice of Piety for the Husbandman . Cyhoeddodd hefyd gyfieithiad o waith arall gan Secker sef Traethiadau ar Gatecism Eglwys Loegr: gyda phregeth ar Gonffirmasiwn , 1778 . Y gwaith olaf a gyhoeddodd oedd Pregeth ar Salm CXIX , 165, yn 1779 . Yn ôl cofrestr plwyf Hirnant fe gyfieithodd yn 1784 Drych y Prif Oesoedd gan Theophilus Evans , ond nid ymddengys iddo gyhoeddi'r cyfieithiad. Bu f. yn 1790 a'i gladdu ym Mhennant 17 Gorffennaf .

Llyfryddiaeth:

  • R. Williams , Montgomeryshire Worthies , ail arg., 1894 ;
  • C. Ashton , Hanes Llenyddiaeth Gymreig, 1651–1850 . [1893?]

Awdur:

Elwyn Evans, M.A., Aberystwyth