JONES, THOMAS (neu 'Twm Shon Catti'; 1532 - 1609), tirfeddiannwr, hynafiaethydd, achydd, a bardd

Enw: Thomas Jones
Ffugenw: Twm Shon Catti
Dyddiad geni: 1532
Dyddiad marw: 1609
Priod: Joan Devereux (née Price)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: tirfeddiannwr, hynafiaethydd, achydd, a bardd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Perchnogaeth Tir; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth
Awdur: Francis Jones

O Borth-y-ffynnon ger Tregaron, mab anghyfreithlon bonheddwr o Geredigion. Yn ôl Dyddiadur John Dee ganwyd ef 1 Awst 1532 (J. Roberts ac Andrew G. Watson, John Dee's Library Catalogue (1990), 45-46). Ymwelodd Thomas Jones â Dee yn Llundain yn 1590 a Manceinion yn 1596, a buont yn gohebu yn 1597 : galwai Dee ef 'my cousin'.

Disgrifiwyd ef fel 'Thomas Johns alias Catty' yn 1559. Ni wyddys enw ei wraig gyntaf, ond priododd, yn ail wraig, yn 1607, Joan, gweddw Thomas Williams o Ystrad Ffin, a merch Syr John Price, Aberhonddu. Dechreuodd ysgrifennu tua 1570. Cynorthwyodd George Owen a Lewys Dwnn, a hefyd swyddogion y Coleg Arfau. Bu yn ddistain dros Garon yn 1601. Bu farw yn 1609, a phrofwyd ei ewyllys yng Nghaerfyrddin.

Tyfodd cnwd o storïau rhamantus o gylch ei enw, ond dengys ei lawysgrifau ei fod yn ŵr o ddysg a dawn; tra y dengys cofnodion swyddogol ei fod yn ŵr bonheddig ei sefyllfa mewn cymdeithas.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.