JONES, SAMUEL (fl. 1715-64), gweinidog Annibynnol ac athro ysgol

Enw: Samuel Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Annibynnol ac athro ysgol
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: John Dyfnallt Owen

Ganwyd ym mhlwyf Llanedi, Sir Gaerfyrddin, fel y tybir - eithr awgrymir Llangyfelach, Sir Forgannwg, hefyd. Yr oedd yn academi Caerfyrddin, dan William Evans, c. 1715, a bernir ei fod yn gwasanaethu eglwys neilltuol yn ystod ei dymor yn yr academi. Bu'n weinidog Capel Seion, Llanddarog, Sir Gaerfyrddin, 1720-52, a Tirdoncyn, Sir Forgannwg, 1720-59. Preswyliai yn Pentwyn, Llannon, Sir Gaerfyrddin; cadwai ysgol yno am 22 mlynedd, a daeth amryw o'i ddisgyblion yn wŷr blaenllaw - Dr. Richard Price, Owen Rees, Thomas Morgan (Henllan), Noah Jones (Walsall), etc. Symudodd, c. 1766, i Dreforris, Sir Forgannwg, lle yr agorodd ysgol a'i fab yn athro ynddi. Drwgdybid ef, gan rai, o fod yn Ariad, eithr tystiolaetha ei bregethau ei fod yn efengylaidd ei ysbryd a'i farn.

Bu farw yn 1767. Cofnodir claddu 'Rev. Samuel Jones' yng nghofrestr plwy Llanedi ar 10 Awst 1767.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.