Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



JONES , RICHARD ROBERT (‘ Dic Aberdaron ’; 1780 - 1843 ) ; brodor o blwyf Aberdaron , ac o bosibl o bentref Aberdaron . Saer coed a saer cychod oedd ei dad, ond ni fu llawer o lwyddiant ar ymdrech y mab i fwrw'i brentisiaeth gydag ef. Daeth yn adnabyddus oherwydd dwy nodwedd arbennig yn ei gymeriad, sef ei fedr eithriadol i ddysgu ieithoedd , a'i aflerwch yn ei wisg a'i arferion.

Oherwydd ei ddiffyg diddordeb yng ngalwedigaeth ei dad, gorfodwyd ef yn gymharol gynnar ar ei oes i adael ei gartref, pa un ai o'i wirfodd ai o raid nid oes sicrwydd. Dechreuodd ddysgu Lladin pan oedd tua 12 oed, a chyn bod yn 20 yr oedd wedi dechrau dysgu Groeg . Ond naill ai am fod ysfa crwydro yn ei waed, neu am fod gorfodaeth amgylchiadau yn peri iddo symud yn aml, ansicr a bratiog ydyw ei hanes ar hyd ei oes. Gwyddys iddo fod yn Lerpwl yn 1804 , ac yn Llundain yn 1807 , ac iddo aros am gyfnodau byr ym Mangor , yng Nghaernarfon , ac yn sir Fôn , ac iddo yn ystod ei grwydradau gael cyfle i ddysgu Hebraeg yn ogystal â rhai ieithoedd diweddar fel Sbaeneg ac Eidaleg .

Cariai nifer helaeth o lyfrau o'i gwmpas ym mhlygion ei ddillad, a bu rhaid arno droeon, o brinder bwyd a dillad, werthu rhai ohonynt a'u prynu yn ôl drachefn. Nid oedd ganddo unrhyw dro at lenyddiaeth, a gallai ddarllen llyfrau cyfain heb wybod odid ddim am eu cynnwys. Bu o 1831 hyd 1832 yn gweithio ar ei eiriadur Cymraeg-Groeg-Hebraeg , ac wedyn yn ceisio casglu enwau tanysgrifwyr er mwyn ei gyhoeddi, ond methiant fu. Bu f. yn Llanelwy 18 Rhagfyr 1843 a chladdwyd ef yno; y mae englyn ar garreg ei fedd gan Ellis Owen , Cefnymeysydd .

Llyfryddiaeth:

  • W. Stanley Roscoe , Memoir of R. R. Jones, of Aberdaron, exhibiting a remarkable instance of a partial power and cultivation of intellect , Llundain, 1822 , 1822 ;
  • Oxford Dictionary of National Biography ;
  • Y Gwladgarwr , iv, 223; v, 29;
  • Bye–Gones, relating to Wales and the Border Counties , 1889-90 ;
  • Llawysgrif Llyfrgell Genedlaethol Cymru 697 ;
  • ceir darluniau ohono yn y 'Life and times of Richard Robert Jones' gan Ellis Owen Ellis.

Awdur:

Gruffydd Parry, ( -2002), Botwnnog, Pwllheli