JONES, ROBERT (1769 - 1835), clerigwr

Enw: Robert Jones
Dyddiad geni: 1769
Dyddiad marw: 1835
Rhiant: Edward Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Trevor Hugh Bowen

a chyfaill y bardd William Wordsworth; ganwyd fis Tachwedd 1769 yn Plas-yn-llan, Llangynhafal, sir Ddinbych, mab Edward Jones, atwrnai. Cafodd ei addysg yn ysgol ramadeg Rhuthyn cyn mynd i Goleg S. Ioan, Caergrawnt, lle yr oedd yn gyd-efrydydd â Wordsworth. Bu gyda'r bardd hwnnw ar daith gerdded ar gyfandir Ewrop yn 1790 ac ar daith arall trwy Ogledd Cymru yn 1791. Ordeiniwyd ef yn Llanelwy yn 1792 a bu'n gymrawd ei goleg hyd 1806; y flwyddyn honno dewiswyd ef yn rheithor Souldern, swydd Rhydychen. Ymwelodd Wordsworth ag ef yn Souldern yn 1820 a thrachefn yn 1824 ym mhersondy Llanfihangel-glyn-myfyr. Parhaodd Jones yn rheithor Souldern hyd ddiwedd ei oes, eithr treuliodd gyfnodau yng Ngogledd Cymru. Bu farw 5 Ebrill 1835 yn Plas-yn-llan; ni fu yn briod.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.