JONES, RICHARD ('Glan Alaw'; 1838 - 1925), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd

Enw: Richard Jones
Ffugenw: Glan Alaw
Dyddiad geni: 1838
Dyddiad marw: 1925
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Isaac Samuel Lloyd

Ganwyd 3 Mehefin 1838 yn Llanfachraeth, Môn. Crydd a bardd ydoedd i ddechrau. Yna, yn 1873, dechreuodd bregethu. Yn 1875 galwyd ef i wasnaethu gyda'r genhadaeth gartref ym Millom, Cumberland, a bu yno oddeutu chwe blynedd. Aeth oddi yno i fyw i Gaergybi gan barhau i bregethu. Yn Ionawr 1884 galwyd ef i fugeilio eglwys Brynrefail, Sir Gaernarfon. Hunan-ddiwylliedig ydoedd, ac ar ei daith i'r weinidogaeth ni chyrhaeddodd na Chlynnog na'r Bala. Er hynny yr oedd yn feddyliwr coeth ac yn deall amryw ieithoedd. Pregethai gyda chewri'r enwad, er mai fel esboniwr yr oedd amlycaf. Bu'n briod ddwywaith, a magodd dyaid o blant. Cyhoeddodd ddau esboniad a darlith, a chyhoeddwyd cyfrol o'i farddoniaeth a'i bregethau wedi ei farwolaeth gan ei blant. Bu farw 4 Chwefror 1925.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.