JONES, DAVID RICHARD (1832 - 1916), bardd

Enw: David Richard Jones
Dyddiad geni: 1832
Dyddiad marw: 1916
Rhiant: Richard Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Robert (Bob) Owen

Ganwyd 24 Hydref 1832, yn Bryntirion, plwyf Dolwyddelan, Sir Gaernarfon, mab Richard Jones, a oedd yn frawd i'r Parch. John Jones, Talsarn. Ymfudodd y teulu i U.D.A. yn Awst 1845 a chafodd y mab ychydig fisoedd o ysgol yn Cambria, Wisconsin. Bu'n gweithio ar fferm ei dad hyd nes y prentisiwyd ef, yn 1852, gydag arch-adeiladydd yn Racine, Wisconsin. Wedi iddo fod gyda ffyrmiau yn S. Paul a Chicago agorodd fusnes drosto'i hun yn 1873, gan ymneilltuo yn 1887. Bu farw yn 1916.

Dechreuodd farddoni yn 1858 a chyhoeddwyd llawer o'i waith yn Y Drych (Utica). Yr oedd dylanwad syniadau Charles Darwin yn drwm ar ei ganiadau, ac felly yr oeddent yn annerbyniol gan lawer yng Nghymru ac yn U.D.A. - e.e., pan ymddangosodd Yr Ymchwil am y Goleuni (Dolwyddelan, 1910), geiriau Spinther James oedd ' Glafoerion Anffyddiaeth.' Yn y cyfamser yr oedd yr awdur wedi cyhoeddi Hanes Bywyd yr 'Hen Sion Llwyd' (Cambria, Wisconsin, 1897), ac ymddangosodd ' Rhiangerdd Mona'r Gelli ' (buddugol yn eisteddfod Cambria, Wisconsin) yn Y Drych, 30 Gorffennaf a 6 Awst 1903, a chân, ' Yr Ysgrwd yn y Gilgell,' yn Y Drych, 24 Gorffennaf 1902.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.