Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



JONES , JOHN RICHARD ( 1765 - 1822 ), gweinidog gyda'r Bedyddwyr ,

Ramoth , Llanfrothen , sir Feirionnydd ; g. yn y Bryn Melyn , plwyf Llanuwchllyn , 13 Hydref 1765 . Yr oedd ynddo gryn dipyn o reddf yr ysgolhaig o'i febyd. Yn llanc gallai ddarllen ac ysgrifennu Saesneg a medrai rifyddiaeth; gwyddai fesurau cerdd dafod a chyfrinion tôn ac alaw , a'i lais yn berorol. Bu'n aelod ac yn bregethwr gyda'r Annibynwyr yn yr ‘ Hen Gapel ,’ Llanuwchllyn , ond newidiodd ei enwad, a bedyddiwyd ef gan Henry Davies , Llangloffan , yn Nhrawsfynydd , 7 Mehefin 1788 . Ordeiniwyd ef, 4 Tachwedd 1789 , yn weinidog ar eglwys Ramoth (canolfan Bedyddwyr Meirion ) a'i changhennau. Rhwng 1789 a 1798 yr oedd yn rheng flaenaf pregethwyr ei enwad ac yn un o arweinwyr y Bedyddwyr Neilltuol trwy Dde a Gogledd. Daeth i afael ar weithiau Archibald Maclean (o Sgotland ) a chael ynddynt yn ei farn ef ddehongliad teg o ddysgeidiaeth y Testament Newydd a phortread gwell o Gristionogaeth seml yr Eglwys Apostolaidd . Adfer ordinhadau ac arferion yr Eglwys Fore , pwysleisio ochr ddeallol ffydd, newid dull pregethu y pregethwyr poblogaidd gyda'u hwyl Fethodistaidd a'u damhegu parhaus ar yr Ysgrythurau, a ‘neidio’ gorfoleddus y cynulleidfaoedd, a fynnai ef. Bu Christmas Evans yn ei gynorthwyo yn fawr i ledaenu ei syniadau rhwng 1795 a 1798 , ond pan ymneilltuodd J. R. Jones oddi wrth Fedyddwyr ‘Babilonaidd’ Cymru yng nghyfarfod y Gabidwl Fawr yn Ramoth , tua diwedd 1798 , a ffurfio ei enwad ei hun , y ‘ Bedyddwyr Albanaidd ,’ pallodd Christmas fwy na heb. Casglodd J. R. Jones gorff o bobl o'i gwmpas (rhifent o leiaf 350 yn 1807 ) ac erys ei enwad hyd heddiw yn ardaloedd Harlech , Ffestiniog , Glynceiriog , a'r Rhosllannerchrugog . Am 24 mlynedd, bu'n gadfridog i'w bobl, yn gerddwr diymarbed tros ei blwyf gwasgarog, yn ymwrthod o argyhoeddiad â chyflog, yn iawn gyfrannu Gair y Gwirionedd. O'i bum llyfr cyhoeddedig, y mae tri yn gasgliadau o emynau (ei eiddo ei hun ac emynwyr eraill), a dau yn ymwneuthun ag egwyddorion a daliadau ei enwad. Gŵr amryddawn ydoedd, o alluoedd disglair, â diddordeb mewn pob math o wybodaeth. Gwyddai rywfaint o Roeg , Lladin , a Hebraeg ; yr oedd yn dipyn o beiriannydd ac yr oedd iddo ddiddordeb mewn mathemateg ; yn ei ffordd ei hun, gydol ei oes, arferai grefft meddyg gwlad . Tystir i'w lais soniarus a'i ddawn canu , a medrai hefyd beroriaeth a gwyddor canu . Ymhoffai yng nghrefft barddoniaeth, ac yr oedd yn gyfaill ac yn athro diwinyddol i Robert ap Gwilym Ddu a Dewi Wyn .’ Argyhoeddi, ymresymu, dehongli'r Ysgrythurau , plygu'r ewyllys — dyna'i nodweddion arbennig yn ei ddysg a'i bregethu. Peth naturiol iddo ef oedd bod yn bendant, yn ddogmatig, yn sicr o'i feddwl ei hun, ond yr oedd ynddo gadernid argyhoeddiad, hunanaberth yn ei wasanaeth i'w bobl, crefyddolder ysbryd. Ebe Ap Fychan amdano: ‘ Efe oedd y dyn mwyaf a fagodd Sir Feirionydd erioed .’ Bu f. 27 Mehefin 1822 .

Ffynonellau:

  • Cofiant J. R. Jones, Ramoth, yn cynnwys casgliad helaeth o'i lythyrau … Gyda phennod a'r "Fywyd a llafur J. R. Jones yn eu pertynas a'i oes," gan … T. Shankland … Hefyd amryw o ddarluniau, etc. , Caerfyrddin, 1913 gan D. Williams (Caerfyrddin, 1913 );
  • Cofiant y diweddar Hybarch Morris Rowland, Llanfair, Harlech. yn yr hwn y ceir trem ar hanes Bedyddwyr Gorllewin Meirionydd, o ddyddiau J. R. Jones, o Ramoth, hyd yn awr , Llangollen, 1899 gan D. Davies (‘ Dewi Eden ’);
  • ysgrif O. M. Edwards yn Cymru (O.M.E.) Tachwedd 1893 ;
  • ysgrif ‘Cynddelw’ yn Y Gwyddoniadur Cymreig , 1889–96 ,

Awdur:

John Thomas Jones, M.A., Rhiwabon

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54