JONES (JOHNES), RICHARD, argraffydd a gwerthwr llyfrau yn Llundain yn ystod y blynyddoedd 1564 - c. 1602

Enw: Richard Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: argraffydd a gwerthwr llyfrau
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: William Llewelyn Davies

Ni wyddys i bwy y prentisiwyd ef eithr fe'i derbyniwyd i frawdoliaeth y Company of Stationers ar 7 Awst 1564. Rhydd R. B. McKerrow, gol. cyffredinol A Dictionary of Printers and Booksellers in England … 1557-1640 (London, 1910), enwau chwe lle yn weddol agos i eglwys S. Paul y bu Jones yn cadw busnes ynddynt. Llenyddiaeth boblogaidd, sef baledi a phethau cyffelyb, oedd mwyafrif mawr y llu pethau a argreffid ganddo, serch iddo argraffu llawer o lyfrau a llyfrynnau mwy sylweddol. Cafodd drwydded Cwmni'r Stationers i argraffu ' Catecism ' Cymraeg, 1566-7, ' Sonett or a synners solace made by Hughe Gryffythe prysoner,' yn Gymraeg a Saesneg, 1587, ' Epytaphe on the Death of Sir Yevan. Lloyd of Yale knighte ' (gan yr un Hugh Gryffythe), 1587-8, ' Sermon preached by master Doctor Morgan at the funerall of Sir Ieuan Lloyd knight,' yn Gymraeg, 1588-9. Nid oes, ysywaeth, gopi ar gael o'r rhai hyn er nad ydyw hynny'n profi i sicrwydd na argraffwyd mohonynt. Ni wyddys faint o Gymro oedd Richard Jones ond y mae ei arwyddair, ' Heb Ddieu heb Ddim,' yn awgrymu ei fod o dras Cymreig.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.