JONES, GRIFFITH RHYS ('Caradog'; 1834 - 1897), gof ac arweinydd cerddorol

Enw: Griffith Rhys Jones
Ffugenw: Caradog
Dyddiad geni: 1834
Dyddiad marw: 1897
Rhiant: John Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gof ac arweinydd cerddorol
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd 21 Rhagfyr 1834 yn y Rose and Crown, Trecynon, Aberdâr. Peiriannydd oedd ei dad, John Jones, yng ngwaith haearn Llwydcoed, Aberdâr, a phrentisiwyd y mab yn of.

Dysgodd gerddoriaeth yn ieuanc, a daeth yn chwaraewr medrus ar y ffidil. Yn 19 oed aeth â chôr i eisteddfod Aberafan, a chafodd wobr am ganu 'Haleliwia to the Father' (Beethoven); enw'r côr yn y gystadleuaeth oedd 'Côr Caradog,' ac o hynny allan adwaenid yr arweinydd fel 'Caradog.' Yn 1858 penodwyd ef yn arweinydd côr undebol Aberdâr, ac ynglyn â'i waith fel arweinydd y côr hwn y daeth i enwogrwydd; llwyddodd i ennill y brif wobr yn yr eisteddfodau am flynyddoedd. Yn 1870 symudodd i fyw i Dreorci, Rhondda, lle y bu ganddo gôr meibion llwyddiannus. Yn 1872 penderfynwyd ffurfio côr i gystadlu yn y Palas Grisial, Llundain, a dewiswyd 'Caradog' yn arweinydd. Rhifai'r côr 456 o aelodau o wahanol ardaloedd yn y Deheudir. Yr oedd wyth o ddarnau i'w dysgu - tri chytgan dwbl; un i chwech o leisiau; tri i bedwar llais, a madrigal. Cymerodd y gystadleuaeth le 10 Gorffennaf 1872, a chystadlai côr Llundain dan arweiniad Joseph Proudman, ond dyfarnwyd y wobr i gôr Caradog. Bu'r côr wedi hyn yn canu i dywysog a thywysoges Cymru. Wedi i'r 'Côr Mawr' wasgaru, sefydlodd 'Caradog' gôr yn Nhreorci i berfformio cyfanweithiau.

Symudodd i fyw o Dreorci i Lanybydder, ac oddi yno i Gaerdydd; o Gaerdydd aeth i fyw i Bontypridd, lle y bu farw 4 Rhagfyr 1897; claddwyd ef ym mynwent gyhoeddus Aberdâr.

Wedi'r angladd cyfarfu aelodau'r 'Côr Mawr' a phasiwyd i roddi cofadail ar ei fedd i gofio am yr hen arweinydd. Gosodwyd ar sgwâr Aberdâr gerflun ohono â'i fatwn yn ei law, wedi'i gerfio gan Syr William Goscombe John.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.