JONES, JAMES RHYS ('Kilsby'; 1813 - 1889), gweinidog Annibynnol

Enw: James Rhys Jones
Ffugenw: Kilsby
Dyddiad geni: 1813
Dyddiad marw: 1889
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Annibynnol
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: John Dyfnallt Owen

Ganwyd 4 Chwefror 1813 yn Penlan, Llanymddyfri, mab y Parch. Rhys Jones, Ffaldybrenin. Yn 15 oed aeth i ysgol Neuaddlwyd lle y bu am ddwy neu dair blynedd; oddi yno aeth i Goleg Blackburn am ysbaid byr. Bu'n cadw ysgol yn Ffaldybrenin, 1833-4, ac yn fyfyriwr yng Ngholeg Caerfyrddin, 1835-8. Wedi gorffen yno gwasanaethodd yr eglwys ym Machynlleth am ryw chwe mis. Gweinidogaethodd yn Frampton-on-Severn 1835-9, Kilsby (yn swydd Northampton) 1840-9, Birmingham 1850, Bolton 1851-5, Rhaeadr 1857-60, Tonbridge Chapel, Llundain, 1861-6, Rhaeadr (yr ail waith) 1867, Caebach, Llandrindod, 1868-87, Christ Church, Llandrindod, 1878-89. Bu farw 4 Chwefror 1889.

Cyfrifid Kilsby yn un o gymeriadau hynotaf ei gyfnod onid yr hynotaf oll. Dyn od, yng ngolwg ei feirniaid, hynod yng ngolwg ei edmygwyr. Y rheswm am yr arbenigrwydd oedd ei bersonoliaeth wreiddiol, ei wisg, ei ddull o fyw, ei arddull o fynegi'i feddwl. Torrai ar draws pob rhigolau, rheolau, a defodau mân. Cyfunid ynddo ddewrder a mwynder. Gwelwyd cynulleidfaoedd yn foddfa o ddagrau dan ei bregethau; clywid utgorn floedd brenin yn ei areithiau ar lwyfannau. Ffieiddiai bob hoced, rhagrith, a mursendod. Ysgrifennodd lawer i'r newyddiaduron wythnosol a chrefyddol, a golygodd weithiau William Williams, Pantycelyn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.