JONES, RHYS (neu Rice) (1713 - 1801), hynafiaethydd a bardd

Enw: Rhys Jones
Dyddiad geni: 1713
Dyddiad marw: 1801
Priod: Ann Jones (née Griffith)
Rhiant: John Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hynafiaethydd a bardd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Barddoniaeth
Awdur: David Gwenallt Jones

Mab hynaf John Jones o'r Blaenau, Llanfachreth, Sir Feirionnydd. Cafodd ei addysg yn Nolgellau ac Amwythig. Bwriadai fyned am y gyfraith ond pan oedd yn 18 oed bu farw ei dad, a daeth adref i'r Blaenau, ac yma y bu drwy gydol ei oes. Yn 1741 priododd Ann, merch Richard Griffith, Tan-yr-allt, Sir Gaernarfon. Cyhoeddodd Cerdd Newydd iw chanu yn y Lloerig Gymdeithas yr hon sydd wedi i sefydlu iw chadw yn Nrws Nant Tafarn yn fisol beunydd or ddydd Iau nesaf o flaen y Llawn Lloer, (gyda) Cywydd i ofyn gwn i'r pendefig Wm. Llwyd o Riwedog Ysgr. (d.d., c. 1750), Gorchestion Beirdd Cymru: Neu Flodau Godidowgrwydd Awen, Wedi eu lloffa, a'u dethol, allan o waith rhai o'r Awduriaid ardderchog, a fu erioed yn yr Iaith Gymraeg. O Gasgliad Rhys Jones, o'r Tyddyn Mawr, yn y Brinaich, ym mhlwyf Llanfachreth, yn Swydd Feirion … (Amwythig, Argraffwyd gan Stafford Prys, yn y Flwyddyn MDCC. LXXIII; Can neu Fyfyrdod ar Ddaioni yr Arglwydd yn anfon yd i'n Gwlad er ein Hachub Rhag Y Newyn a'i Ganlyniadau etc., ar fesur 'Old Darby' (Dinbych, 1817). Cyhoeddwyd yn 1864 argraffiad o'r Gorchestion, 'Argraphiad diwygiedig gydag ychwanegiadau a nodiadau, gan Cynddelw.' Sylwer mai yn y Tyddyn Mawr, ac nid yn y Blaenau, yr oedd Rhys Jones yn byw pan gyhoeddodd ei Gorchestion. Detholiad o waith Aneirin, Taliesin, Llywarch Hen, Dafydd ap Gwilym, a chywyddwyr eraill, a geir yn y llyfr hwn; ar gynllun awdlau Gutun Owen a William Llŷn yn ei gasgliad yr ysgrifennodd Rhys Jones ei 'Awdl Foliant' i William Vaughan, Cors-y-gedol.

Ceir barddoniaeth wreiddiol Rhys Jones yn NLW MS 3059D , sef 'Y Llyfr Gwyrdd gan Rhys Jones,' ac argraffwyd ei waith yn 1818 o dan y teitl Gwaith Prydyddawl Y Diweddar Rice Jones o'r Blaenau, Meirion. Gan Rice Jones Owen, Wyr yr Awdur. Bu farw 14 Chwefror 1801, a chladdwyd ef yn eglwys Llanfachreth.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.