Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



JONES , REES (‘ Amnon ’; 1797 - 1844 ) ; g. yn Nhalgarreg 8 Hydref 1797 ; yr oedd yn frawd hŷn i John Jones ( 1802 - 1863 ) [q.v.] . Collodd ei dad ac yntau yn 12 oed. Bu yn ysgol Davis Castellhywel a medrai Ladin , ond oherwydd amgylchiadau teuluaidd fe'i tynnwyd o'r ysgol, ac amaethwr a fu drwy'i oes. Priododd, yn ifanc, Mary , merch Nantyrymenyn , ac ymaelododd ym Mhantydefaid . Collodd ei briod ymhen naw mlynedd, ac yn 1828 priododd eilwaith. Bu f. 15 Chwefror 1844 yn 46 mlwydd oed, a chladdwyd ef ym mynwent Pantydefaid . Erys ei goffa yn fyw fel awdur Crwth Dyffryn Clettwr , 1848 . Cyfansoddai yn y mesurau caeth a rhydd, a dengys ei ganeuon feddwl blaengar. A chofio iddo adael yr ysgol cyn ei fod yn 15 oed, dengys y Crwth addewid fawr. Y mae llawer o'i ganeuon hyd heddiw ar dafod ardal, a chofir am ‘ Politics Pegy ,’ ‘ Fy Nhadcu ,’ ‘ Awdl Gofiant Beirdd Ceredigion ,’ ‘ Ymddiddan rhwng David Lloyd a Sara Gwaralltyryn ,’ ac y mae tinc heddiw yn ei gân, Cŵyn Gweithdai y Tlodion .’ Gwnaeth fwy, hwyrach, drwy ei ganeuon nag odid neb i ddeffro meddwl ardal â'i gadw yn rhyddfrydig.

Llyfryddiaeth:

  • Crwth Dyffryn Cletwr sef, gwaith barddonol y diweddar Rees Jones, Pwllffein, Llandyssul, Ceredigion , Caerfyrddin, 1848 ;
  • Seren Gomer , Mai 1843 ;
  • Hanes Plwyf Llandyssul , 1896 , 169-72.

Awdur:

Y Parch. Thomas Oswald Williams, M.A., (1888-1965), Llanbedr-pont-Steffan