JONES
,
OWEN
(‘
Owain Myfyr
’;
1741
-
1814
),
crwynwr yn Llundain, ac un o'r ffigurau amlycaf ym mywyd llenyddol Cymru yn niwedd y 18fed g. a dechrau'r ganrif ddiwethaf
;
g.
3 Medi 1741
yn
Llanfihangel Glyn Myfyr
,
sir Ddinbych
. Pan oedd yn ŵr ifanc, aeth i
Lundain
yn brentis o
grwynwr
. Gweithiai gyda
Messrs. Kidney and Nutt
yn
Ducksfoot Lane
, a phan oedd tua 40 oed, cafodd y fusnes i'w ddwylo ei hun. Ei gyfeiriad o tua
1782
ymlaen ydoedd
148 Upper
Thomas
Street
. Daeth yn ŵr cyfoethog, oherwydd er cymaint sylw a rôi i'r gwaith o
hyrwyddo bywyd llenyddol Cymru
nid esgeulusodd ei fusnes. Ac yntau dros ei 60 oed, priododd, a bu iddo dri o blant. Bu f.
26 Medi 1814
, a chladdwyd ef ym
mynwent Allhallows
. Wedi iddo ddyfod i
Lundain
yn ŵr ifanc, daeth i gysylltiad â
Richard
Morris
a
Chymry
eraill y Brifddinas. Dyma'r gymdeithas a enynnodd ei ddiddordeb yn
hanes llenyddiaeth Gymraeg
ac ym mywyd llenyddol y dydd. Yn y cyfnod hwn, fe'i galwai ei hun yn ‘
Owain ap Huw
.’ Fe'i cawn ef a'i gyfaill,
‘
Robin Ddu o Fôn
,’
yn
1768
yn codi gwaith
Dafydd ap Gwilym
o lyfrau'r
Morrisiaid
yn ogystal â phob math o ddefnyddiau eraill a welent yn yr hen lawysgrifau. Dyma un o'i brif ddiddordebau trwy gydol ei yrfa. Ni wyddom pa bryd yr ymunodd â
Chymdeithas y Cymmrodorion
, ond dengys yr argraffiad o'r
Gosodedigaethau
a gyhoeddwyd yn
1778
mai ef oedd yr
ysgrifennydd cynorthwyol
yn y dyddiau hynny. Ond yr oedd ef a
‘
Robin Ddu
’
wedi
sefydlu cymdeithas
arall cyn hynny, sef
Cymdeithas y Gwyneddigion
. Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf ym mis
Rhagfyr 1770
, a'r
llywydd
yn
1771
ydoedd ‘
Owain Myfyr
.’ Bu'n
llywydd
droeon wedi hynny, a hefyd yn
ysgrifennydd
ac yn
drysorydd
. Wedi marw'r
Cymmrodorion
yn
1787
, dechreuodd
Cymdeithas y Gwyneddigion
ar ei gyrfa fel prif noddwr dysg
Gymraeg
, ac ‘
Owain Myfyr
’ a fu wrth y llyw am dros 20 mlynedd. Cyfarfyddai
Cymry
llengar
Llundain
yn
nhafarn y Bull's Head
(neu'r ‘
Crindy
’), ac yno y trefnid yr holl waith. Yn
1789
, dechreuodd y gymdeithas gynnig gwobrau am awdlau yn y cyfarfodydd a gynhaliai'r mân feirdd yng
Ngogledd Cymru
, a dyma ddechrau'r eisteddfod, fel y gwyddom ni amdani. Yn yr un flwyddyn hefyd dechreuwyd cyflawni'r gorchwyl y buasai
ysgolheigion Cymraeg
yn breuddwydio amdano trwy gydol y
18fed g.
, sef cyhoeddi cynnwys yr hen lawysgrifau. Yn
1789
, cyhoeddwyd gwaith
Dafydd ap Gwilym
, ac ‘
Owain Myfyr
’ yn un o'r
golygyddion
. Yna, yn
1798
, ffurfiwyd cynllun mawreddog i gyhoeddi holl gynnwys y llawysgrifau, ac, yn
1801
, ymddangosodd dwy gyfrol fawr o dan y teitl,
The Myvyrian Archaicology of Wales
, lle y ceid gwaith y Cynfeirdd a'r
Gogynfeirdd a chasgliad o'r
Brutiau
. Ni allwyd myned ymlaen â'r gwaith am gyfnod, a hynny oherwydd colledion a gawsai ‘
Owain Myfyr
’ yn ei fusnes, ond yn
1807
cyhoeddwyd trydedd gyfrol. Bwriedid cynnwys y
Mabinogi
a'r
Rhamantau
, a thalodd ‘
Owain Myfyr
,’ i gopïwyr am lunio casgliad gweddol gyflawn o weithiau'r cywyddwyr. Heblaw hyn, bwriadai ddwyn allan argraffiadau newydd o brif glasuron yr
16eg g.
a'r
17eg.
Daw terfyn ar y gweithgarwch hwn tua
1807
. Ni allai ef namyn cynllunio, ac wedi i
William Owen
Pughe
gael etifeddiaeth yn
sir Ddinbych
, nid oedd ganddo neb i ymgymryd â'r caledwaith. Heblaw hyn, yr oedd yn hen ŵr a phlant ifainc yn dibynnu arno. Dylem gofio o hyd na byddai gweithgarwch y cyfnod hwn (
1789-1807
) yn bosibl onibai am ei haelioni ef. Ef a dalai holl gostau'r cyhoeddi. Gwariodd filoedd o bunnoedd, ac y mae llythyrau'r cyfnod yn dangos pa help ariannol a roes i bob math o fudiadau a hefyd i
feirdd
a
llenorion
Cymru
. Rhaid ei restru ymhlith
prif gymwynaswyr dysg Gymraeg
. Y mae ei lawysgrifau a'i bapurau a'i lythyrau yn yr
Amgueddfa Brydeinig
. Mab iddo oedd
Owen
Jones
(
1809
-
1874
) [q.v.]
, a nai iddo oedd
Hugh
Maurice
[q.v.]
.
Llyfryddiaeth:
-
The Gentleman's Magazine
, 1731–1922. Am
amser maith, yr oedd dwy gyfrol yn y flwyddyn—cyfeirir atynt
e.e. fel ‘1776, i,’ a ‘1776, ii.’
,
1814
, ii, 499;
-
Monthly Magazine
, 1796–1843
,
1815
, 80-2;
-
The Cambro-Briton
, 1819-1822
,
1819
, 19-23;
-
Leathart
,
Origin and Progress of the Gwyneddigion
Society of London
, 1831
,
1831
, 13;
-
Y Gwladgarwr
,
1838
, 33-5;
-
Eminent Welshmen
, 1908
, 259-60;
-
Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion
Cymru
, 1870
, 625-6;
-
Oxford Dictionary of National
Biography
;
-
Y Llenor
, i, 252-61.
Awdur:
Athro-Emeritus Griffith John Williams, M.A., (1892-1963),
Gwaelod-y-garth, Caerdydd