Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



JONES , MICHAEL ( 1787 - 1853 ), gweinidog gyda'r Annibynwyr ac athro cyntaf Coleg Annibynnol y Bala ; g. 1787 yn Neuaddlwyd , sir Aberteifi ; symudodd y teulu i dyddyn bychan o'r enw Ffosybontbren . Yn ddiweddar ar eu hoes y cysylltodd ei rieni eu hunain â chrefydd; gyda'r Wesleaid yng Nghapel y Ficer , yr oedd ei dad, Daniel Jones , gŵr o Lanbydder , yn aelod pan fu farw, a'i fam, Mary Jones , gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Ffos-y-ffin . Cychwynnodd ei yrfa yn was fferm , yna troes i fod yn saer maen . Drwy gymorth ei frawd Evan , aeth am dymor i ysgol ac yn fuan wedyn aeth i Lanbedr a dysgodd yno y grefft o rwymo llyfrau . Yn 1807 derbyniwyd ef yn aelod yn y Neuaddlwyd gan y Dr. Phillips , ac ef a'i hanogodd i ddechrau pregethu . Aeth i ysgol Davis Castell Hywel a gweithiai ysbeidiau er ei gynnal ei hun, a bu ar un adeg yn cadw ysgol yn y Neuaddlwyd . Ymhen rhyw ddwy flynedd derbyniwyd ef i athrofa Wrecsam gyda'r Dr. Jenkin Lewis yn athro i ddechrau a'r Dr. George Lewis yn ddiweddarach. Urddwyd ef yn 1814 yn olynydd i'r Dr. George Lewis yn Llanuwchllyn .

Yr adeg hon yr oedd Ymneilltuwyr Cymru o bob enwad yn ferw o ddadleuon diwinyddol, ac nid hir y bu cyn i weinidogaeth Michael Jones brofi'n faes un o'r dadleuon ffyrnicaf, dadl a ddaeth i'w hadnabod fel ‘ Dadl y Systemau .’ Er dyddiau'r Dr. George Lewis , ‘system’ Bresbyteraidd neu Henaduriaethol oedd y drefn yn yr Hen Gapel ; ac ynglŷn â hyn y cododd yr helynt flin. Yn gymhleth â hi yr oedd hefyd bynciau athrawiaethol fel uchel-Galfiniaeth ac Arminiaeth . Rhwygwyd yr eglwys yn ddwyblaid, sef plaid Michael Jones a phlaid yr Hen Bobl. Cyhuddid ef o anwybyddu'r egwyddor o Henaduriaeth yn llywodraeth yr eglwys a'i fod yn Armin , yn gwadu'r Pechod Gwreiddiol, yn ymddiried yng Ngallu Dyn ac yn haeru Cyffredinolrwydd y Prynedigaeth.

Ar 11 Tachwedd 1821 ciliodd yr Hen Bobl o'r eglwys; galwyd gweinidogion i geisio cymodi ond methwyd, ac yn y diwedd aed i gyfraith am feddiant o'r capel, a'r Hen Bobl a orfu. Bu Michael Jones a'i blaid allan o'r Hen Gapel am yn agos 10 mlynedd, gan addoli yn ei gartref yn y Weirglodd Wen lle y symudasai o dŷ'r Hen Gapel . Yn 1839 unodd y ddwyblaid â'i gilydd ac aethpwyd yn ôl i'r capel.

Symudodd Michael Jones i'r Bala yn 1842 i ofalu am ysgol newydd a ddaeth i'w hadnabod fel Athrofa'r Annibynwyr ar gyfer addysgu dynion ifanc i'r weinidogaeth. Cychwynasid hi i ddechrau yn Llanuwchllyn yn 1841 yn y Weirglodd Wen , lle hefyd y cynhaliai ef un o ysgolion y Dr. Daniel Williams .

Bu f. 27 Hydref 1853 a chladdwyd ef yn Rhosyfedwen , mynwent yr Hen Gapel .

Llyfryddiaeth:

  • R. T. Jenkins , Hanes Cynulleidfa Hen Gapel Llanuwchllyn , 1937 a Hanes Cymru yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg / Cyfrol 1, 1789-1843 , Caerdydd, 1933 , 45, 47;
  • Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru , 409-11;
  • Album Aberhonddu…o'r flwyddyn 1755 hyd 1880 , 1898 , 57-8.

Awdur:

Y Parch. Richard Griffith Owen, M.A., (1890-1973), Bangor