JONES, MICHAEL (bu farw 1649), milwr

Enw: Michael Jones
Dyddiad marw: 1649
Rhiant: Mabel (née Ussher)
Rhiant: Lewis Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: milwr
Maes gweithgaredd: Milwrol
Awdur: Arthur Herbert Dodd

Ganwyd yn Iwerddon eithr yr oedd o dras Cymreig - yn disgyn, yn y chweched genhedlaeth, o Gruffydd Derwas, arglwydd Nannau a chyndad teulu Nanney ac, ar yr ochr fenywol, John Jones y brenin-leiddiad. Aeth ei dad, LEWIS JONES (mab John Wynn ap John), o Sir Feirionnydd i Goleg y Trwyn Pres, Rhydychen, c. 1562, gan fynd yn syth ar ôl cymryd gradd B.A. i gymrodoriaeth yng Ngholeg All Souls a dyfod yn ddeon Ardagh (swydd Longford, Iwerddon), 1606-25, yn ddeon Cashel (lle yr atgyweiriodd yr eglwys gadeiriol), 1607, yn ganon Ely, 1629-38, ac (ar waethaf y ffaith nad oedd Laud yn hoffi ei Biwritaniaeth) yn esgob Killaloe o 1633 hyd ei farw ar 2 Tachwedd 1646, yn 104 oed fel y tybid. Ymunodd dau frawd ag ef yn Iwerddon : HENRY JONES, mab yr hwn, y barnwr OLIVER JONES (bu farw 1682), oedd taid Ann Jones, mam Oliver Goldsmith, a BRYAN JONES (bu farw 1671), aelod o Senedd Iwerddon a sefydlydd teulu Gwyddelig Jones o Headfort, sydd yn parhau i fod yn bwysig yn Iwerddon.

Mab iau i'r esgob oedd Michael Jones ac fe'i ganed, yn ôl pob tebyg, yn Ardagh. Dychwelodd i Iwerddon o Lincoln's Inn (lle y'i derbyniasid 12 Ionawr 1631) i ymuno â'r fyddin a godwyd i wrthsefyll y gwrthryfel Gwyddelig (1641). Eithr gan nad yn cydweld â'r cymod a wnaethpwyd yn 1643, ymunodd â byddin y Senedd yn Lloegr, i ymladd yn erbyn awdur y cymod, y brenin Siarl I. Bu'n gweithredu fel cyrnol llu gwŷr meirch ar y Goror (gan mwyaf) ac yng ngwarchae Caer; bu'n helpu i drefnu'r telerau ynglŷn â chymryd Caer drosodd (1 Chwefror 1646) - ar ôl ymuno â Syr Thomas Mytton i orchfygu, yn Ninbych (1 Tachwedd 1645) a Holt Bridge (Rhagfyr 1645), y llu a oedd yn ceisio atgyfnerthu'r fyddin a oedd yn dal Caer, a daeth yn llywiawdr y dref (6 Chwefror) a dal y swydd honno hyd 30 Mehefin pryd y cymeradwywyd ef i'r Senedd yn brif gadfridog y lluoedd yn Iwerddon, ac anfonwyd ef yno yn ' major general ' i adnewyddu'r ymladd. Cafodd fuddugoliaeth nodedig yn Dungan Hill, Antrim (8 Awst 1647). Gwrthododd wrando ar apêl Ormond (9 Mawrth 1649), wedi i'r brenin gael ei ladd, i ymuno ag ef a'i gynghreiraid, y ' Confederate Catholics,' er cosbi y rhai a roes y brenin i farwolaeth (9 Mawrth 1649), a gwnaeth hi'n bosibl i Cromwell lanio yn Iwerddon trwy orchfygu lluoedd Ormond yn Rathmines, gerllaw Dulyn (2 Awst 1649). Eithr bu farw o dwymyn ar 10 Rhagfyr ac fe'i claddwyd yn eglwys S. Mary, Youghal. Gadawodd ar ei ôl enw da am wroldeb personol a medr milwrol. Rhoddwyd i'w weddw stad yn Iwerddon a oedd yn werth £3,000, eithr bu helynt yn ei chylch, a chymerwyd meddiant ohoni yn 1690 gan Tyrconnel a gadael y weddw heb ddim moddion pan oedd y mab a fabwysiadwyd ganddi, MICHAEL JONES (mab Henry Jones, esgob Clougher), yn ymladd dros William III.

Daeth tri eraill o feibion Lewis Jones i enwogrwydd yn Iwerddon. Dilynodd HENRY JONES (1605 - 1682) ei dad fel deon Ardagh (1625), daeth yn esgob Clougher yn 1645, bu'n gwasnaethu Cromwell fel ' scoutmaster ' yn y cyfnod pan nad oedd yr esgobaeth mewn grym; fe'i dewiswyd, serch hynny, yn esgob Meath yn 1661. Yr oedd yn un o arloeswyr astudiaeth y Wyddeleg. Dilynodd Syr THEOPHILUS JONES (bu farw 1685) ei frawd Michael fel llywiawdr Dulyn (1649-59), yr oedd yn aelod dros ran o Iwerddon yn Senedd 1656 Cromwell, eithr cydweithredodd â Monck i ddyfod â'r Adferiad i rym, ac yn wobr cafodd ei ddewis yn ' scoutmaster general ' i Siarl II (1661). Gwnaethpwyd AMBROSE JONES (bu farw 1678) yn esgob Kildare yn 1667.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.