Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



JONES , LEWIS ( 1836 - 1904 ), Patagonia , arloeswr a llenor ; g. yng Nghaernarfon . Symudodd i Gaergybi a bu'n cyd-olygu 'r Pwnsh Cymraeg yno â'i gyd- argraffydd Evan Jones ( Evan Jones , Caernarfon , wedi hynny) [q.v.] . Symudodd drachefn i Lerpwl , a daeth yn un o brif arweinwyr y Mudiad Gwladfaol . Anfonwyd ef a'r Capt. ( Syr , wedyn) Love Jones-Parry i archwilio Patagonia yn 1862 , a dychwelodd gydag adroddiad wedi ei orliwio nes bod yn anghywir, a pherswadio'r Cymry i fentro yno. Anfonwyd ef ac Edwyn Cynrig Roberts drosodd i baratoi'r lle i'r fintai gyntaf. Siomwyd yr ymfudwyr, bu cweryl, ac ymhen tri mis ymadawodd yntau i Buenos Aires , lle bu'n gweithio am ddeunaw mis fel argraffydd . Pan glywodd fod y Cymry yn bwriadu gadael Patagonia yn 1867 , aeth i lawr atynt, a thrwy ei ddawn areithyddol arbennig, fe'u perswadiodd i aros yno. Bu'n brwyad (rhaglaw) ym Mhatagonia dros Lywodraeth Ariannin am gyfnod byr — yr unig Gymro a ddaliodd y swydd erioed. Eithr bu yng ngharchar droeon hefyd dros hawliau'r Cymry . Daeth â gwasg argraffu yno, a chychwynnodd ddau bapur newydd , sef Ein Breiniad , 1878 , a'r Drafod , 1891 ; cyhoeddir yr olaf yno hyd heddiw. Yn ystod ei ymweliad â Chymru yn 1885 bu'n annerch y Cymmrodorion , a chyhoeddwyd ei ddarlith. Cyhoeddwyd ei lyfr, Y Wladfa Gymreig , yn 1898 . Bu iddo ddwy ferch: un ohonynt oedd Eluned Morgan [q.v.] a'r llall yn briod â Llwyd ap Iwan , mab Michael D. Jones . Bu Lewis Jones yn arweinydd dewr yn y Wladfa am 35 mlynedd, ond torrodd ei galon pan ddifethwyd y wlad gan y gorlif yn 1899 . Bu f. 26 Tachwedd 1904 yn 68 oed.

Llyfryddiaeth:

  • R. Bryn Williams , Cymry Patagonia , Aberystwyth, 1942 , 13, 20-31, 43-6, 53, 61-4;
  • Straeon Patagonia , Gwasg Aberystwyth, 1946 , a Rhyddiaith y Wladfa , Dinbych Gwasg Gee, 1949 .

Awdur:

Y Parch. Richard Bryn Williams, M.A., (1902-81), Rhuthyn / Aberystwyth