JONES, LEWIS ('Rhuddenfab '; 1835 - 1915), argraffydd, bardd, a newyddiadurwr

Enw: Lewis Jones
Ffugenw: Rhuddenfab
Dyddiad geni: 1835
Dyddiad marw: 1915
Rhiant: Margaret Jones
Rhiant: John Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: argraffydd, bardd, a newyddiadurwr
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd 15 Mehefin 1835 yn Stryt-y-Cerrig, gerllaw eglwys Llanfwrog, Rhuthyn, mab John a Margaret Jones. Ar 8 Ebrill 1845 rhwymwyd ef yn egwyddorwas, o dan Isaac Clarke, yn swyddfa argraffu Mrs. Nathan Maddocks, Rhuthyn. Bu'n cystadlu mewn rhai eisteddfodau ac yn beirniadu mewn eraill. Yn NLW MS 5515C ceir ganddo gofnodion pwyllgorau a gyfarfu yn Rhuthyn mewn cysylltiad â dathliad canmlwyddiant ysgolion Sul; yn NLW MS 5517C a NLW MS 5518B y mae llythyrau a dderbyniodd oddi wrth lu o wŷr a oedd yn flaenllaw ym mywyd cyhoeddus a diwylliannol Cymru ei gyfnod; yn NLW MS 5517C ceir hefyd gopi o gyfres o erthyglau ganddo o dan y teitl 'Deugain mlynedd yn ôl.' Bu farw 19 Ebrill 1915.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.