JONES, JOSIAH (1830 - 1915), gweinidog gyda'r Annibynwyr

Enw: Josiah Jones
Dyddiad geni: 1830
Dyddiad marw: 1915
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Richard Griffith Owen

Ganwyd 2 Gorffennaf 1830 yn Ffynnonddwrgi, Cwmcoy, y Drewen, Sir Aberteifi. Prentisiwyd ef yn saer coed. Dechreuodd bregethu yn 17 oed. Aeth i ysgol ramadeg Castellnewydd Emlyn ac wedyn am dymor i ysgol yn Aberteifi; derbyniwyd ef i Goleg Aberhonddu yn 1850 ac ef oedd un o'r rhai cyntaf i basio 'matriculation' Prifysgol Llundain; oherwydd afiechyd nid aeth am radd. Urddwyd ef yn weinidog y Graig, Machynlleth, yn 1854; ymddeolodd yn 1910. Yr oedd ei briod yn or-ŵyres i Williams Pant y Celyn.

Ef oedd un o brif sylfaenwyr Undeb yr Annibynwyr Cymraeg a'i ysgrifennydd cyntaf yn 1872; bu'n gadeirydd yn 1892. Yr oedd yn wrthwynebydd ffyrnig i Michael D. Jones a'i blaid ym mrwydr y Cyfansoddiadau. Cyfrifid ef ym Machynlleth a'r cylch yn Ymneilltuwr cadarn, ac yn hytrach na danfon ei blant i ysgol eglwysig, yr unig ysgol yn y dref, addysgodd hwynt gartref ei hunan. Cymerth ran amlwg ym mrwydrau addysg y cylch.

Ar gyfrif ei grefft fel saer, ymddiddorai lawer mewn pensaernïaeth a chynlluniodd gapelau Llanwrin, Penegoes, ac ysgoldy Pont-ar-Ddyfi yn ogystal â thŷ'r gweinidog. Cyhoeddodd ddau gofiant, y naill, 1863, i'r Parch. Azariah Shadrach, a'r llall, 1886, i'r Parch. Edward Williams, Dinas Mawddwy. Bu farw 27 Ebrill 1915 a chladdwyd ef ym Machynlleth.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.