JONES
,
JOHN
(‘
Ioan Brothen
’;
1868
-
1940
),
bardd
;
g.
10 Mehefin 1868
, mab
John
a
Jane
Jones
,
Cae'r Gorlan
,
Llanfrothen
. Symudodd y teulu oddi yno i breswylio i
Hafod Mynydd
, ac fel ‘
John Hafod Mynydd
’ yr adwaenid ‘
Ioan Brothen
’ gan ei gyfeillion. Yr oedd yn un o bump o blant; yr oedd ei chwaer, ‘
Meirionwen
,’ yn
barddoni
hefyd. Cafodd ychydig o addysg yn yr ysgol ddyddiol, ond diolchai fwy am yr
addysg a dderbyniodd yn ysgol Sul
Siloam
,
Llanfrothen
. Wedi gadael yr ysgol aeth i
weini at ffermwyr
yn
Llanfrothen
, a throdd oddi wrthynt i weithio fel
labrwr
yn
chwarel y Rhosydd
,
Blaenau Ffestiniog
. Wedi caledwaith y dydd, arhosai mewn barics yn y chwarel gyda gweithwyr eraill, darllenai lyfrau, a
chyfansoddai englynion
yn ei oriau hamdden. Ymdrodd lawer ym myd natur a gwyddai am adar, dail, llysiau, a rhedyn yn llawn cystal â neb. Priododd
Ellen
Jones
,
Garreg Ganol
,
Llanfrothen
,
30 Tachwedd 1901
, ac yno gyda hi y bu byw wedi hynny; ganed iddynt ddau fab a phedair merch. Ysgrifennodd lawer i
Cymru (O.M.E.)
a
Cymru Plant
.
Yn
1942
cyhoeddwyd
Llinell neu Ddwy
, sef casgliad o'i englynion (swyddfa'r
Rhedegydd
,
Blaenau Ffestiniog
). Casglodd ‘
J.W.
J.
’ gyfrol arall o'i waith yn barod i'r wasg, a throsglwyddodd hi mewn llawysgrif i'r
Llyfrgell Genedlaethol
. Bu f.
16 Tachwedd 1940
, a huna ym mynwent newydd
Llanfrothen
.
Llyfryddiaeth:
- Gwybodaeth bersonol;
-
Y Rhedegydd
,
21 a 28 Tachwedd 1940
.
Awdur:
John William Jones, (1884-1954), Blaenau Ffestiniog