Bu'n was mewn siopau dillad yng Nghaernarfon a Llundain , ond dechreuodd bregethu ac aeth i Goleg y Bala yn 1861 . Ordeiniwyd ef yn 1863 , ond ar wahân i gyfnod byr ( 1872-8 ) pan oedd yn fugail Capel y Graig gerllaw Bangor , ni bu'n fugail eglwys.
Priododd â merch i David Jones , Treborth . Bu am rai blynyddoedd ar ôl 1878 yn oruchwyliwr banc preifat (teuluol) ‘ Pugh, Jones & Co. ’ ym Methesda , ond dychwelodd i Bwllheli (lle'r oedd wedi byw cyn mynd i'r Graig ), ac yno y bu f., 19 neu 20 Mehefin 1906 ; yn Glanadda , Bangor , y claddwyd ef.
Yr oedd yn weddol dda ei fyd; teithiodd lawer; ymhoffai mewn daeareg a daearyddiaeth , a sgrifennodd lawer ar y pynciau hyn i'r Traethodydd . Cyhoeddodd hefyd gofiannau i ddau weindog hynod, Michael Roberts o Bwllheli a John Jones , Bryn'rodyn .
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor