JONES, JOHN ('Eos Bradwen '; 1831 - 1899)

Enw: John Jones
Ffugenw: Eos Bradwen
Dyddiad geni: 1831
Dyddiad marw: 1899
Plentyn: Elizabeth Jones (née Jones)
Rhiant: Elizabeth Jones
Rhiant: William Jones
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth; Barddoniaeth
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd 16 Hydref 1831 mewn bwthyn ar lechwedd Talyllyn, Sir Feirionnydd, mab William ac Elizabeth Jones. Symudodd y teulu o'r bwthyn i bentref Tregorŵyr, ac oddi yno i Ddolgellau lle y dygwyd allan Y Seraph neu Gyfaill y Cerddor Ieuanc yn cynnwys tonau ac alawon. Yn 1858 aeth i fyw i Aberystwyth; yn 1863 penodwyd ef yn arweinydd corawl eglwys gadeiriol Llanelwy lle y llafuriodd am 15 mlynedd.

Enillodd lawer o wobrwyon a chadeiriau am bryddestau mewn eisteddfodau. Yn eisteddfod genedlaethol Llandudno 1864 enillodd am eiriau cantawd, ' Y Mab Afradlon '; yr un flwyddyn cyfansoddodd ei gantawd ' Owain Glyndwr,' a fu'n boblogaidd am gyfnod hir. Bu canu mawr ar ei gân, ' Bugeiles y Wyddfa,' hefyd. Enillodd wobr yn eisteddfod Llandudno, 1885, am opera, ' Dafydd ap Siencyn.' Yn 1878 aeth i fyw i Rhyl o Lanelwy, ac yn ddiweddarach i Gaernarfon.

Bu farw 29 Mai 1899 a chladdwyd ef ym mynwent Llanbeblig.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.