Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



JONES , JOHN ( fl. 1811-58 ; ‘ Shoni Sguborfawr ’), un o derfysgwyr ‘Beca’ ; g. yn 1810 neu'n gynnar yn 1811 — rhoddir ei oedran yn 33 pan gyrhaeddodd i Tasmania yng Ngorffennaf 1844 . Ym Merthyr Tydfil y ganed ef, meddai dogfennau'r heddlu, ond llysenwyd ef ar ôl fferm y Sgubor-fawr ym Mhenderyn — naill ai am i'w dad (meddir) fyw yno neu am iddo ef ei hunan fod yn was yno. Pan alltudiwyd ef, ei unig berthynas agos oedd ei frawd Solomon , yn byw yn America . Yr oedd o daldra cymedrol, a chanddo farf; gallai ddarllen a sgrifennu rhyw gymaint; ac yr oedd yn Fedyddiwr . Ni wyddys fawr am ei ddyddiau bore. Dywed yr heddlu mai ‘sinciwr’ pyllau glo ydoedd, ond tystia sgrifennwr pur ddibynnol mai ‘ brass-fitter .’ Ymddengys iddo symud o Ferthyr i Aberhonddu oblegid cawn i'r cyrnol Thomas Wood (gw. dan Williams , Gwernyfed ), yr aelod seneddol dros Frycheiniog , ei restru'n ‘ gwnstabl arbennig ’ yn Aberhonddu yn ystod etholiad — yn nes ymlaen, rhoes Wood dystiolaeth mewn sgrifen ar ei ran. Ymddengys iddo am dymor filwrio yn y ‘ 98th Foot ,’ ac iddo'r pryd hynny ddyfal gasglu gwybodaeth i'r awdurdodau tuag at ddileu'r ‘ Scotch Cattle ’ yn rhannau diwydiannol sir Fynwy — plediwyd hyn hefyd ar ei ran yn ddiweddarach i geisio tyneru'r gosb arno. Yna, daeth yn baffiwr ; dathlwyd agoriad y Taff Vale Railway ( 1840 ) â gornest a dyrnau moelion rhwng Shoni a phencampwr Cyfarthfa , John Nash . Cofid yn y dyddiau wedyn fod Shoni 'n ddiffynnwr anifeiliaid , ac iddo roi curfa i ryw helwyr am gam-drin eu ceffylau.

Dygwyd ef o flaen ustusiaid Merthyr Tydfil fis Mawrth 1843 am fod yn feddw ac afreolus, ond rhyddhawyd ef ar addewid o ‘fyw bywyd gwell’; eithr ym mis Mai wele ef o flaen mainc Abertawe ar gyffelyb gyhuddiad. Aeth wedyn i weithio yn ardal Pontyberem , a chyflogwyd ef gan arweinwyr terfysg ‘Beca’ i gymryd llaw yn eu gwaith — telid iddo o ddeuswllt i bumswllt y noson am ei wasanaeth. Cyflogwyd ef i losgi ffermydd ustus a oedd wedi digio ‘Beca’ ; ar yr achlysur hwnnw, saethwyd ceffyl o eiddo'r ustus , a throchodd Shoni a'i bartneriaid eu dwylo yng ngwaed hwnnw fel math o sagrafen. Bu wrthi'n dryllio sawl tollglwyd ; ac ar 25 Awst gwnaeth gryn alanastra ym mhentref Pontyberem mewn ffrae feddw. Codai ei arswyd ar y fro, a gwasgai arian allan o'r ffermwyr , gan fygwth datguddio i'r awdurdodau eu bod ymhlaid ‘Beca.’ Ond cymerwyd ef i'r ddalfa yn y Tymbl ar 28 Medi ; profwyd ef yn y frawdlys yng Nghaerfyrddin , a dedfrydwyd ef ( 22 Rhagfyr ) i'w alltudio am ei oes — nid, fel y dywedir yn gyffredin, am ddryllio clwydydd, ond am saethu'n fwriadol at ryw Walter Rees , yn y New Inn , Pontyberem . Chwarddodd wrth glywed y ddedfryd. Yn y carchar, bradychodd enwau nifer o'i gyd-derfysgwyr.

Symudwyd ef o garchar Caerfyrddin , 5 Chwefror 1844 , i Millbank , yng nghwmni Dai'r Cantwr ’ ( David Davies , 1812? - 1874 , gw. arno yn yr Ychwanegiad); ond ar 8 Mawrth (nid gyda Dai ’ y tro hwn) rhoddwyd ef ar y llong Blundell , a glaniodd yn Norfolk Island (math o garchar paratoi) ar 6 Gorffennaf . Yno y bu nes ei symud i ‘ Van Diemen's Land ’ ( Tasmania ), 8 Ebrill 1847 . Rhoddwyd ef yno yng ngwasanaeth amryw bobl, ond yr oedd byth a hefyd mewn helynt — am ddwyn pytatws, am wrthod gweithio heb gael dogn helaethach o fwyd, am feddwi a therfysgu, etc., a chafodd amryw gyfnodau o lafur caled ac o garchar unig. Rhoddwyd ‘ticket of leave’ iddo ar 19 Medi 1854 , ond tynnwyd hi'n ôl ar 8 Rhagfyr , a rhoi deunaw mis o lafur caled iddo am ymosodiad. Rhyddhawyd ef cyn terfyn y tymor hwnnw, ond ar 10 Mawrth 1856 cafodd dri mis eto o lafur caled, am feddwdod. O'r diwedd, cafodd ‘ticket of leave’ ar 2 Rhagfyr 1856 , a phardwn amodol ar 20 Ebrill 1858 . Ni lwyddwyd i ddarganfod adeg nac amgylchiadau ei farw. Priodol ddigon yw'r disgrifiad cyfoes ohono: ‘ a halfwitted and inebriate ruffian .’

Llyfryddiaeth:

  • Ymchwil bersonol.

Awdur:

Yr Athro Emeritus David Williams, D.Litt., (1900-78), Aberystwyth