JONES, JOHN ('Myllin '; 1800 - 1826), bardd

Enw: John Jones
Ffugenw: Myllin
Dyddiad geni: 1800
Dyddiad marw: 1826
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Elwyn Evans

Ganwyd yn y Glyniau, ger Llanfyllin. Dysgodd fod yn grydd a bu'n gweithio am ysbaid yn Lerpwl, Cafodd gefnogaeth y Parch. David Richards, Llansilin, a bu'n gyfeillgar â ' Gwallter Mechain,' ' Ieuan Glan Geirionydd,' ac eraill. Yn eisteddfod y Trallwng yn 1824 enillodd wobr am ei englynion ' Beddargraph Dic Sion Dafydd.' Ceir enghreifftiau o'i waith yng nghylchgronau'r cyfnod. Dyma rai o'i gerddi mwyaf adnabyddus: ' Myfyrdodau wrth wrando Cnul ' ac ' Awdl o ddiolchgarwch i Dduw am ffrwythlondeb cynhyrchiol a thymmor llwyddiannus y Cynhauaf ' (Yr Eurgrawn Wesleyaidd, 1825); ' Englynion Difyfyr ar Lanfyllin ' (Y Gwyliedydd, 1823); ' Morwynion glân Trefaldwyn ' (Golud yr Oes, ii, 155). Ceir ganddo hefyd gyfieithiad o ' Lashed to the Helm ' gan Dibdin ac o ' Auld Lang Syne.' Bu farw 9 Gorffennaf 1826 a'i gladdu yn Llanfyllin.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.