JONES, JOHN ('Poet Jones '; 1788 - 1858), prydydd

Enw: John Jones
Ffugenw: Poet Jones
Dyddiad geni: 1788
Dyddiad marw: 1858
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: prydydd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn Llanasa, Sir y Fflint. Yn 8 oed, aeth i weithio mewn melin gotwm yn Nhreffynnon. Aeth i'r môr tua 1804; yn 1805 yr oedd yn y llynges, a bu ar fyrddau amryw longau rhyfel o hynny hyd 1814, gan ymroi i ddarllen yn ei oriau hamdden. Dychwelodd i'r ffatri yn Nhreffynnon, ond yn 1820 symudodd i ffatri arall yn Stalybridge; yno, chwanegai at ei gyflog prin gan argraffu cerddi addysgiadol (e.e. damhegion Esop ar gân) a'u gwerthu yn y farchnad. Cyhoeddodd lyfr bychan ohonynt, Poems by John Jones, yn 1856. Bu farw 19 Mehefin 1858; yr oedd ' Ceiriog ' a ' Creuddynfab ' yn ei angladd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.