JONES, JOHN (1725? - 1796), cerddor

Enw: John Jones
Dyddiad geni: 1725?
Dyddiad marw: 1796
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Cerddoriaeth
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd c. 1725. Penodwyd ef yn organydd y Middle Temple 24 Tachwedd 1749, yn organydd y Charterhouse (yn olynydd i Dr. Pepusch) 2 Gorffennaf 1753, ac yn organydd eglwys gadeiriol S. Paul, Nadolig 1755. Cyhoeddodd rai salm-donau yn 1785; canwyd un o'r rhai hyn ar adeg ymweliad Siôr III â S. Paul, 23 Ebrill 1789, ac yng nghyfarfodydd blynyddol plant y ' Welch Charity.' Wedi clywed canu'r salmdôn hon ysgrifennodd Haydn yn ei ddyddlyfr: ' No music has for a long time affected me so much as this innocent and reverential strain.' Bu farw Chwefror 1796 yn Llundain.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.