Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



JONES , JOHN ( 1645 - 1709 ), canghellor eglwys gadeiriol Llandaf , mab (neu ŵyr) Matthew Jones , Pentyrch , Morgannwg . Bu'n ysgolor ac yn gymrawd o Goleg Iesu , Rhydychen , gan gymryd ei B.A. yn 1666 , M.A. yn 1670 , B.C.L. yn 1673 , a D.C.L. yn 1677 . Cafodd drwydded i wneuthur gwaith meddygol yn 1678 a bu wrth ei waith yn Windsor . Derbyniwyd ef i goleg y physygwyr yn 1677 , a'i benodi'n ganghellor Llandaf yn 1691 . Cyhoeddodd draethawd Lladin ar glefydau yn 1683 , ac yn 1700 waith ar ddatguddiad dirgeledigaethau opiwm , a ddisgrifir fel ‘ peth rhyfedd ac ofnadwy na fedr neb mo'i ddeall .’ Dyfeisiodd hefyd gloc ‘a symudid gan awyr wedi ei gwasgu'n gyfartal allan o fegin ar ffurf silindr, a'i phlygion yn syrthio wrth ddisgyn yn ôl dull lanternau papur.’ Cafodd drwydded 29 Awst 1678 i briodi Mary Starkey o Windsor ; bu f. 22 Awst 1709 a'i gladdu ger porth gorllewinol eglwys gadeiriol Llandaf .

Llyfryddiaeth:

  • Hardy , Jesus College , 1899 ;
  • Foster , Alumni Oxonienses ;
  • Wood , Athenae Oxonienses , 1813–20 ;
  • Oxford Dictionary of National Biography

Awdur:

Thomas Iorwerth Ellis, M.A., (1899-1970), Aberystwyth