JONES, JOHN (neu ' Leander') (1575 - 1636), mynach o Urdd S. Benedict ac ysgolhaig

Enw: John Jones
Ffugenw: Leander
Dyddiad geni: 1575
Dyddiad marw: 1636
Rhiant: Janet wraig Thomas ap John
Rhiant: Thomas ap John
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: mynach o Urdd S. Benedict ac ysgolhaig
Maes gweithgaredd: Crefydd; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Emyr Gwynne Jones

Ganwyd ym mhlwyf Llanfrynach, sir Frycheiniog, mab (y mae'n debygol) i Thomas ap John, Tŷ Mawr, a Janet ei wraig. Dygwyd ef i fyny yn Brotestant. O ysgol Merchant Taylors aeth i Goleg S. Ioan, Rhydychen yn 1591, gan ddyfod yn gymrawd o'i goleg yn 1593. Collodd ei gymrodoriaeth yn 1595-6 oblegid ei dueddiadau pabyddol, a gadawodd Rydychen i fyned i astudio diwinyddiaeth gyda'r Jesiwitiaid yn Valladolid, Sbaen; yr oedd bellach wedi cael ei dderbyn i'r Eglwys Babaidd.

Ymunodd ag Urdd S. Benedict yn Valladolid ym mis Hydref 1599 a chymerth yr enw Leander a Sancto Marino. Cafodd radd D.D. ym Mhrifysgol Salamanca, daeth yn ysgolhaig disglair, ac yr oedd yn nodedig o hyddysg mewn ieithoedd dwyreiniol. Fe'i dyrchafwyd yn gyflym gan yr urdd; o 1619 hyd 1621 efe oedd ' President General ' cyntaf y Benedictiaid yn Lloegr. Yn gynnar yn 1634 daeth i Loegr, gyda chaniatâd arbennig a sicrhâi ei ddiogelwch, i drin gyda'r archesgob Laud fater aduniad Eglwys Loegr a'r Eglwys Babyddol.

Bu farw 17 Rhagfyr 1636 yn Llundain a chladdwyd ef yn y Chapel Royal, Somerset House.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.