JONES, JOHN (1807 - 1875), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd

Enw: John Jones
Dyddiad geni: 1807
Dyddiad marw: 1875
Priod: Jones (née James)
Rhiant: Charlotte Jones
Rhiant: Samuel Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganwyd 4 Hydref 1807, ym Melin Blaenpistyll, Llangoedmor, Sir Aberteifi, mab Samuel a Charlotte Jones. Symudodd yn ieuanc gyda'i rieni i'r Cytirbach, ger Blaenannerch. Cafodd ychydig addysg mewn ysgol ddyddiol, ac mewn ysgol yn Aberteifi yn ddiweddarach.

Ymddiddorai mewn pregethu er yn ieuanc iawn a dechreuodd bregethu ei hunan, yn 1833, ar ôl derbyn argraffiadau crefyddol dwys. Daeth yn enwog ar fyrder, a dechreuodd deithio'r wlad yn ôl arfer yr oes. Ordeinwyd ef yn sasiwn Llangeitho, 1841. Priododd, yn 1842, Mrs. James, Canllufaes, a bu'n byw yno ac yn y Cytir-bach nes iddo adeiladu ei dŷ ei hun - Brynhyfryd - ger Blaenannerch. Bu ar y maes am dros 40 mlynedd, ac ni bu mwy o fri ar neb yng Nghymru, mewn sasiwn a chymanfa, na'r 'hen Flaenannerch,' fel y gelwid ef. Yr oedd ei lais mawr, a'i ddoniau ysgubol, tanllyd, yn cario'r dydd ymhob man.

Bu farw 14 Ionawr 1875, a chladdwyd ef o flaen capel Blaenannerch.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.