JONES, ISAAC (1804 - 1850), clerigwr, cyfieithydd, a golygydd

Enw: Isaac Jones
Dyddiad geni: 1804
Dyddiad marw: 1850
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr, cyfieithydd, a golygydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Thomas Iorwerth Ellis

Ganwyd 2 Mai 1804 yn Llanychaearn, ger Aberystwyth, yn fab i wehydd. Cafodd ei addysg gyntaf gan ei dad, a dywedir iddo fedru darllen Lladin yn 7 oed. Aeth i ysgol yn y plwyf, ac yna i ysgol ramadeg Aberystwyth. Bu'n athro yn yr ysgol honno wedyn, ac yn brifathro o 1828 hyd 1834. Ar ôl dwy flynedd yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Steffan, lle yr enillodd ysgoloriaeth Eldon mewn Hebraeg, urddwyd ef yn ddiacon, Medi 1836, ac yn offeiriad, Medi 1837. Trwyddedwyd ef i guradiaeth Llanfihangel-genau'r-glyn yn 1836, ac ar ôl gwasnaethu yno ac yng Nghapel Bangor aeth, yn Chwefror 1840, yn gurad i Lanedwen a Llanddaniel-fab ym Môn. Bu yno hyd ei farw, 2 Rhagfyr 1850, a chladdwyd ef ym mynwent Llanidan. Cyfieithodd waith W. Gurney (dwy gyfrol) dan y teitl Geiriadur Ysgrythyrol, 1831, a chyhoeddodd Gramadeg Cymreig, sef Traethawd ar Egwyddorion yr Iaith, 1832.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.