Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



JONES , HUGH (‘ Cromwell o Went ’; 1800 - 1872 ), gweinidog Annibynnol ; g. ym mhlwyf Cemaes , sir Drefaldwyn , i deulu crefyddol a oedd yn aelodau gyda'r Trefnyddion Calfinaidd . Aeth i'r Drefnewydd i ddilyn ei alwedigaeth fel gwehydd . Derbyniwyd ef yn aelod ym Mwlch-y-ffridd ychydig o'r dref, ac yno y dechreuodd bregethu . Bu'n egniol gyda'r gwaith crefyddol yn y dref gan helpu i baratoi'r ffordd i sefydlu eglwys Annibynnol Gymraeg yno. Bu'n fyfyriwr yn athrofa Annibynnol y Drefnewydd , 1823-7 ; yr oedd Samuel Roberts (‘ S.R. ’) ac amryw o brif oleuadau Annibynwyr ei gyfnod yn gydefrydwyr. Bu'n weinidog Saron , Tredegar , sir Fynwy , 1827-45 , a Heol Awst , Caerfyrddin , 1845-72 . Aeth i sir Fynwy yn nyddiau cynnar y mudiad diwydiannol pan oedd eglwysi'r Annibynwyr braidd yn ddigyswllt a didrefn, eithr cymerth ef at y gorchwyl o roddi trefn ar yr eglwysi; drwgdybid ef o fod yn anheyrngar i hen drefn yr Annibynwyr . Efe oedd oracl yr enwad yn y sir; yr oedd yn fedrus mewn dadl ac ysgrif, ac yn siaradwr heb ei ail ar y llwyfan cyhoeddus . Ysgrifennodd lawer i'r cylchgronau tra bu ym Mynwy . Symudodd i Heol Awst , Caerfyrddin , yn 1845 . [Yma eto, amheuid ef o ‘bresbytereiddio,’ a chan nad oedd ar delerau da â David Rees o Lanelli [q.v.] , caewyd amryw bulpudau rhagddo.] Daeth yn amlwg fel amddiffynnydd gwneuthur addysg plant yn orfodol ar y trethi . Canodd yn iach i'r llwyfan cyhoeddus ar ôl hyn, gan ei gyfyngu'i hun yn llwyr i waith yr eglwys yn Heol Awst . Bu f. 5 Mawrth 1872 .

Llyfryddiaeth:

  • Hanes Eglwys Heol Awst, Caerfyrddin , 1926 , 61-83;
  • Y Dysgedydd , 1872 , 129-30;
  • Y Diwygiwr , 1872 , 123;
  • Llawysgrifau Solva yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru N.L.W.;
  • Life and Work of William Williams M.P. for Coventry 1835-1847, M.P. for Lambeth 1850-1865 , Llandysul, 1939 , 212-8;
  • Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru , ii, 438-9;
  • The Congregational Year Book , 1846 ff , 1873 , 337-8;
  • Y Tyst a'r Dydd , Dolgellau / Merthyr Tydfil, 1871-Mehefin 1872; Gorff. 1872-1891 , 15 Mawrth 1872 ;
  • [ A History of Carmarthenshire , 1935–9 , ii, 257].

Awdur:

Y Parch. John Dyfnallt Owen, M.A., (1873-1956), Aberystwyth